Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn ennill Gwobr Cynaliadwyedd Cymru'r GIG 2024

Prince Charles Hospital Pharmacy Team

Intern Evan Coleman Mae tîm sydd wedi'i leoli yn Ysbyty’r Tywysog Siarl Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi ennill categori Cymru sy’n Fwy Cyfartal yng Nghynhadledd a Gwobrau Cynaliadwyedd Cymru GIG 2024.

Nod y gwobrau yw hyrwyddo egwyddorion gofal iechyd cynaliadwy a chefnogi ymgorffori arferion cynaliadwy ym maes gofal clinigol. Mae Gwobr Cymru sy’n Fwy Cyfartal yn dathlu prosiectau sy'n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth yw eu cefndir na'u hamgylchiadau. Cafodd tîm y prosiect yn Ysbyty'r Tywysog Siarl ei enwebu ar gyfer eu prosiect Interniaethau â Chymorth.

Ym mis Medi 2022, cymerodd yr ysbyty ei garfan gyntaf o interniaid prosiect SEARCH, pob un rhwng 16 a 24 oed a phawb ag anableddau dysgu neu anghenion addysg arbennig. Cafodd yr interniaid cynnig o leoliadau strwythuredig yn y gweithle a’u cefnogi gyda hyfforddwr swydd. Nod cyffredinol y prosiect oedd cynyddu hyder wrth gyflogi pobl ag anableddau dysgu, ac i'r interniaid ddod yn annibynnol mewn gweithle trwy feithrin sgiliau craidd, a fyddai'n gwella eu cyflogadwyedd ac yn eu galluogi i gael swyddi yn y dyfodol.

Cafodd un o'r interniaid, Evan Coleman, sydd â Syndrom Down, gynnig lleoliad gyda'r adran fferylliaeth yn Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful. Roedd rôl Evan wedi ehangu gyda’r tîm wrth i'w hyder a'i annibyniaeth dyfu, a dechreuodd gynnal archwiliadau diogelwch tân dyddiol, a rhedeg meddyginiaethau cyfnod allweddol i'r ward, gan arbed dros 800 munud o amser nyrsio a sicrhau bod cleifion yn cael eu meddyginiaethau'n brydlon, sy'n cyfrannu at ofal diogel i gleifion. O ganlyniad i’r lleoliad hynod o lwyddiannus hwn, gweithiodd y tîm fferyllol yn agos gyda'r tîm Dysgu a Datblygu i ddatblygu rôl barhaol i Evan, ac mae bellach yn cael ei gyflogi fel Gweithiwr Cymorth Fferylliaeth.

Dywedodd Evan: "Roeddwn i’n falch ac yn gyffrous iawn pan enillon ni'r wobr. Rydw i wedi mwynhau pob munud o'm hamser yn gweithio mewn fferylliaeth ac yn teimlo fel aelod gwerthfawr o'r tîm."

Dywedodd Rhian Carta, Pennaeth Fferylliaeth: "Mae'r adran fferylliaeth wedi croesawu'r interniaethau â chymorth yn llawn - gan arddangos ymrwymiad y tîm i werthoedd ein bwrdd iechyd o gydweithio a thrin pawb â pharch. Mae ein hadran wedi ennill yn aruthrol o'r interniaethau gyda thwf diwylliant cynhwysol - gan wneud ein gweithle yn amgylchedd mwy cefnogol ac amrywiol. Rydym wrth ein bodd bod Mathew ac Evan wedi mwynhau eu lleoliadau gymaint nes eu bod am fod yn aelodau parhaol o'n tîm. Rydym yn edrych ymlaen at gynnal llawer mwy o interniaethau â chymorth i hyrwyddo'r fenter wych hon."

Dywedodd Paul Mears, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg "Rwyf wrth fy modd bod y tîm yn Ysbyty’r Tywysog Siarl wedi ennill y wobr hon. Llongyfarchiadau mawr i bawb a gymerodd ran."

Dywedodd Sue Tranka, Prif Swyddog Nyrsio Cymru: "Mae'r ymroddiad a'r arloesedd sydd wedi cael eu dangos gan bawb yng ngwobrau Cynaliadwyedd Cymru wir yn ysbrydoledig. Mae eich ymrwymiad i ymarfer gofal iechyd cynaliadwy yn ganmoladwy ac yn gosod esiampl ragorol i'r gymuned gofal iechyd cyfan. Diolch am eich cyfraniadau rhagorol tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy i ofal iechyd yng Nghymru, a llongyfarchiadau i'r enillwyr."

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Eluned Morgan: "Llongyfarchiadau i'r holl enillwyr yng ngwobrau Cynaliadwyedd Cymru eleni! Mae eich ymdrechion yn allweddol wrth lunio system gofal iechyd mwy cynaliadwy a chadernid am genedlaethau i ddod, ac er budd pawb yng Nghymru. Mae ehangder ac amrywiaeth y prosiectau arloesol sydd wedi cael eu hanrhydeddu yn y gwobrau yn adlewyrchiad clir o'r dalent sydd gennym yn ein gweithlu. Da iawn am y gydnabyddiaeth haeddiannol hon a dylech chi i gyd fod yn falch iawn ohonoch chi'ch hunain."

01/07/2024