Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn chwarae rhan allweddol wrth gyrraedd carreg filltir 500 o lawfeddygaeth robotig yn y rhaglen genedlaethol

Mae Rhaglen Genedlaethol Llawfeddygaeth â Chymorth Robot Cymru Gyfan wedi cyrraedd carreg filltir arwyddocaol, gan ragori ar 500 o driniaethau llawfeddygol â chymorth robot gan ddefnyddio System Robotig Llawfeddygol Versius. Mae'r fenter genedlaethol hon, partneriaeth arloesol rhwng CMR Surgical a GIG Cymru, yn anelu at wella canlyniadau cleifion a chwyldroi'r profiad llawfeddygol i filoedd o gleifion ledled y wlad.

Mae  Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg  yn un o'r tri bwrdd iechyd sy'n rhan o'r rhaglen, wedi chwarae rhan yn y cyflawniad hwn. Gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, mae Cwm Taf Morgannwg wedi bod yn rhan annatod o gyflwyno a llwyddiant llawfeddygaeth â chymorth robot, gan drawnewid llwybrau gofal yn llawdriniaeth y colon a'r rhefr, gynaecolega llawfeddygaeth rhan uchaf y system gastroberfeddol.

Cymru yw'r wlad gyntaf yn y byd i gyflwyno rhaglen lawfeddygol robotig genedlaethol,  mewn partneriaeth â diwydiant, sy'n ceisio trawsnewid ansawdd gofal a chanlyniadau i gleifion. Fel rhan o ymgyrch arloesi genedlaethol i wella canlyniadau llawfeddygol i gleifion canser, mae Versius yn cael ei ddefnyddio o fewn y Rhaglen Llawfeddygaeth drwy Gymorth Robot Genedlaethol i berfformio ystod o weithdrefnau llawfeddygol drwy gymorth robot ar draws llawfeddygaeth y colon a'r rhefr, gynaecoleg a llawfeddygaeth rhan uchaf y system gastroberfeddol.

Trwy'r rhaglen, mae 93 o staff sy'n cwmpasu 14 o dimau llawfeddygol ar draws y tri ysbyty wedi cael eu hyfforddi gyda chyfanswm o 821 awr o lawdriniaeth yn cael eu perfformio.

Bwriad Versus yw bioddynwared y fraich ddynol, gan rymuso llawfeddygon trwy optimeiddio lleoliad agorfa ynghyd â deheurwydd a chywirdeb offerynnau bach, llawn arddwrn. Mae Versius yn gryno, ac yn fodiwlaidd, gan ganiatáu iddo gael ei integreiddio i lifoedd gwaith ysbyty prysur a'i symud yn hawdd rhwng adrannau llawfeddygol, gan gefnogi defnydd uchel o'r system. Diolch i hyblygrwydd y system, mae Versius yn cael ei ddefnyddio mewn dau neu fwy o arbenigeddau llawfeddygol lluosog ar draws y tri safle ar gyfer ystod o weithdrefnau llawfeddygol arferol a chymhleth, gan gynnwys hemicolectomïau, hysterectomïau a cholesystectomïau.

 Roedd y 500fed achos a chafodd ei gwblhau o fewn y rhaglen yn echdoriad blaen, gweithdrefn a ddefnyddir yn gyffredin i drin canser y rectwm a chlefydau eraill y coluddyn, a chafodd ei berfformio gan Jared Torkington, Llawfeddyg Ymgynghorol y colon a'r rhefr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Mewn partneriaeth â Byrddau Iechyd Cymru, a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, mae CMR wedi helpu i ddatblygu rhwydwaith robotig yng Nghymru trwy gefnogi gweithredu systemau Versius, darparu hyfforddiant ac addysg ledled y wlad, cefnogi ymchwil, a darparu'r gofrestrfa glinigol fyd-eang CMR a'r ecosystem ddigidol ehangach i ddeall datblygiad canlyniadau cleifion ac i safoni gofal.

Dywedodd Jared Torkington, Llawfeddyg Ymgynghorol y colon a'r rhefr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Chlinigydd Arweiniol Rhaglen Llawfeddygaeth drwy Gymorth Robot Cymru Gyfan a berfformiodd y 500fed achos: "Ar ôl bod yn rhan o'r rhaglen ers ei sefydlu, mae'n gyffrous cydnabod y garreg filltir arwyddocaol hon. O'r cychwyn cyntaf, mae'r rhaglen genedlaethol hon wedi croesawu'r arloesedd diweddaraf yn Versius i yrru gwell canlyniadau cleifion a dod â thimau ac adnoddau llawfeddygol ynghyd. Rydym yn defnyddio'r rhaglen i dynnu sylw at bwysigrwydd cyflwyno cynnar a rhaglenni sgrinio presennol mewn canser y coluddyn a chanserau eraill – gan newid agweddau ac ymddygiad y cyhoedd yn gadarnhaol. Mae'n wych gweld y cynnydd sydd wedi'i wneud, ac amrywiaeth y defnydd o'r system ar draws nifer o arbenigeddau llawfeddygol, fel y gall mwy o gleifion ledled Cymru gael mynediad at y dechnoleg flaengar hon."

Dywedodd Mark Slack, Cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Meddygol CMR Surgical: "Mae wedi bod yn wych gweld Rhaglen Llawfeddygaeth drwy Gymorth Robot Cymru Gyfan yn cyrraedd y garreg filltir hon, a'r holl gynnydd sydd wedi cael ei wneud gyda Versius. Mae tebygrwydd clir rhwng cenhadaeth CMR i sicrhau bod manteision llawfeddygaeth fynediad isel yn fwy hygyrch i gleifion yn fyd-eang ac amcanion y rhaglen; ac mae gweld sut mae pob safle yn defnyddio Versius ar draws nifer o arbenigeddau llawfeddygol yn cadarnhau bod y rhaglen yn cyflawni ei hamcanion i drawsnewid profiad llawfeddygaeth, ansawdd gofal a chanlyniadau i gleifion. Mae CMR yn hynod falch o fod yn bartner i'r fenter nodedig hon ac yn edrych ymlaen at weld y cynnydd y mae'r rhaglen yn parhau i'w wneud i gleifion yng Nghymru trwy roi mynediad iddyn nhw at arloesi sy'n newid bywyd."

Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru: "Rydym yn falch iawn o weld cynnydd Rhaglen Llawgeddygaeth drwy Gymorth Robot Cymru Gyfan i gyflymu mynediad arloesol i lawfeddygaeth robotig,  a'r effaith y mae'r fenter hon wedi'i chael ar gleifion ledled Cymru. Mae'n galonogol gweld y rhaglen yn cyrraedd y garreg filltir bwysig hon o 500 achos, gan ddangos beth y gellir ei gyflawni i'n cleifion pan fydd ysbytai'n partneru â diwydiant i weithredu arloesedd fel Versius ar raddfa genedlaethol. Rydym yn edrych ymlaen at barhau i gydweithio ar draws GIG Cymru i yrru'r fenter drawsnewidiol hon."

Gan ddechrau yn 2022, mae'r Rhaglen Llawfeddygaeth drwy Gymorth Robot Cymru Gyfan yn rhaglen llawfeddygaeth robotig genedlaethol i'r radd flaenaf. Ei nod yw trawsnewid gofal a chanlyniadau i gleifion canser ledled Cymru drwy gynyddu argaeledd technolegau a thechnegau uwch ar gyfer llawdriniaethau manwl.

Cafodd CMR Surgical ei benodi yn bartner diwydiant ar gyfer Rhaglen Llawfeddygaeth drwy Gymorth Robot Cymru Gyfan yn dilyn proses gaffael gystadleuol, sy'n cyd-fynd â'r Rhaglen Gofal Iechyd sy’n Seiliedig ar Werthoedd Genedlaethol a gyda’r nod o drawsnewid y system gofal ledled Cymru.

04/12/2024