Mae wyth menter sy’n arwain y sector, sy’n digwydd ar draws BIP Cwm Taf Morgannwg, wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau GIG Cymru eleni. Mae’r gwobrau blynyddol hyn yn arddangos y gwaith gwella ansawdd a diogelwch anhygoel sydd wedi trawsnewid y profiad a’r canlyniadau i bobl yng Nghymru.
Mae timau o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi’u henwebu yn y categorïau canlynol:
Gwobr Gofal Diogel GIG Cymru – Y Grŵp Cydweithredol Cwympiadau.
Gwobr Gofal Amserol GIG Cymru - Pennu'r angen am wasanaeth podiatreg i gleifion mewnol ar gyfer pobl ag afiechyd diabetig acíwt ar y traed
Gwobr Gofal Effeithiol GIG Cymru –Gwneud y gorau o lwybrau i ysgogi gwelliant mewn gofal cleifion fel Tîm Amlddisgyblaethol
Gwobr Gofal sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn GIG Cymru – At a Loss : Cefnogi'r rhai sydd mewn angen oherwydd galar a cholled
Gwobr Cynaliadwyedd Gweithlu GIG Cymru – BIPCTM a Meddygfa Ashgrove, Pontypridd - Datblygu amgylchedd dysgu aml-broffesiynol mewn practis cyffredinol: Cefnogi dysgwyr heddiw i fod yn weithlu yfory.
Gwobr Diwylliant Tîm GIG Cymru –Effaith Gweithredu Ein 4C Athroniaeth a Diwylliant yn Uned Cleifion Mewnol CAMHS Haen 4 Tŷ Llidiard”.
Gwobr Gwybodaeth GIG Cymru - Trawsnewid gwasanaethau codio clinigol mewn modd cyfannol.
Gwobr Dysgu ac Ymchwil GIG Cymru – Hyfforddi Meddygon Cymru yn y Dyfodol: Sefydlu cwrs hyfforddi rhad ac am ddim ar gyfer arholiad MRCP PACES ar gyfer Hyfforddeion Meddygol yng Nghymru.
Dywedodd Paul Mears, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: “Mae’n wych gweld cymaint o brosiectau arloesol CTM yn cael eu cynnwys ar restr fer Gwobrau GIG Cymru eleni. Rydw i’n hynod o falch o'r timau y tu ôl i'r darnau hyn o waith ac o'r gwahaniaethau gwirioneddol y maen nhw’n eu gwneud i'r rhai sy'n derbyn gofal. Llongyfarchiadau i bob un o’r timau a’r prosiectau dan sylw, a dymunaf bob lwc iddyn nhw yn y gwobrau ym mis Hydref.”
Bydd y cam nesaf yn gweld beirniaid yn cymryd rhan mewn ymweliadau rhithwir gyda phob un sy’n cyrraedd y rownd derfynol i ddarganfod mwy am eu prosiectau gwella, a bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni yng Nghaerdydd, ddydd Iau 24 Hydref 2024.
18/06/2024