Ymarferwyr Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol O’r chwith i'r dde - Neil Evans, Conal Davis (Arweinydd Tîm), Keith Oakley
Ddydd Llun 13 Mawrth, lansiodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Phrifysgol De Cymru (PDC) wasanaeth atgyfeirio iechyd meddwl newydd i fyfyrwyr.
Bydd Llwybr Iechyd Meddwl y Brifysgol yn galluogi myfyrwyr sy'n byw ym mwrdeistrefi sirol Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr i gael asesiad a chyngor iechyd meddwl trwy atgyfeiriad gan Wasanaeth Lles ac Anabledd PDC.
Dywedodd Tracey Larson, Rheolwr Gwasanaeth Clinigol ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl Cymunedol yng Nghwm Taf Morgannwg: “Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda Gwasanaeth Lles PDC i sicrhau bod llwybrau di-dor ac amserol ar gyfer asesiadau ac ymyriadau iechyd meddwl i fyfyrwyr y gall fod angen y gefnogaeth y gall y Gwasanaeth Iechyd Meddwl ei ddarparu arnyn nhw, ochr yn ochr â'n cydweithwyr yn y brifysgol.”
Yn dilyn apwyntiad ac asesiad cyfrinachol, mae Cynghorwyr Iechyd Meddwl PDC yn gallu atgyfeirio myfyrwyr yn uniongyrchol at y GIG nawr ar gyfer pryderon iechyd meddwl cymedrol i ddifrifol neu broblemau iechyd meddwl cymhleth/hirsefydlog.
Mae’r llwybr hwn wedi cael ei gyflwyno yn dilyn cynllun peilot Gwasanaeth Cyswllt Prifysgol Iechyd Meddwl y GIG a gynhaliwyd yn 2022 ar gyfer myfyrwyr yn ardal Caerdydd.
Dywedodd Sharon Jones, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr PDC: “Mae hwn yn ddatblygiad rhagorol sy'n helpu PDC i ddarparu amgylchedd diogel a chroesawgar sy'n blaenoriaethu iechyd meddwl a lles ein myfyrwyr. Bydd y gallu i wneud atgyfeiriadau uniongyrchol yn sicrhau ymyrraeth amserol ac effeithiol ac yn galluogi myfyrwyr i ffynnu'n academaidd ac yn bersonol. Rwy'n ddiolchgar i gydweithwyr am yr amser a'r ymdrech y maen nhw wedi’u rhoi i’r gwaith partneriaeth hwn.” Mae mwy o wybodaeth am Wasanaeth Lles PDC ar gael yn Llesiant | Gwasanaeth Lles PDC.
16/03/2023