Neidio i'r prif gynnwy

Brechiadau COVID-19 cerdded i mewn nawr ar gael

Os ydych chi'n gymwys i gael brechiad COVID-19 y gaeaf hwn, dylech nawr fod wedi derbyn gwahoddiad hefyd i fynychu un o'n chwe Chanolfan Brechu Cymunedol (CVCs).

Os nad ydych wedi derbyn gwahoddiad, neu os gwnaethoch fethu eich apwyntiad a'ch bod dros 18 oed, mae ein holl glinigau brechu bellach ar agor i chi gerdded i mewn heb apwyntiad.

Gellir dod o hyd i fanylion am ble mae ein CVCs yma - https://bipctm.gig.cymru/.../sut-i-gael-eich-brechiad.../

Os ydych yn credu eich bod yn gymwys i gael brechlyn COVID ond heb gael gwahoddiad, neu os byddai'n well gennych archebu slot amser ar gyfer eich brechiad, gallwch gysylltu â'n llinell archebu ar 01685 726464.

Os nad ydych eto wedi cael eich brechiad ffliw, mae'r rhain ar gael gan eich meddyg teulu neu fferyllfa leol.

03/12/2024