Yn rhan o Wythnos y Cyflog Byw 2021, mae'n braf gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg gyhoeddi ei fod yn gweithio tuag at ddod yn gyflogwr achrededig y cyflog byw.
Mae'r Bwrdd Iechyd eisoes yn talu'r cyflog byw i'w holl staff.
Fodd bynnag, mae ennill achrediad yn mynd gam ymhellach â hyn. Byddai'n golygu y byddai gweithwyr sy'n darparu gwasanaethau i BIP Cwm Taf Morgannwg, drwy gontractwyr trydydd parti, yn cael y cyflog byw hefyd.
Dechreuodd y broses yn gynharach eleni, pan gysylltodd Cwm Taf Morgannwg â'r Living Wage Foundation i holi ynglŷn ag achrediad. Yn dilyn y trafodaethau cychwynnol hynny, mae'r Bwrdd Iechyd bellach yn gweithio gyda'r elusen Cynnal Cymru, fydd yn ei helpu gyda'r cais.
Os bydd popeth yn mynd yn ôl y bwriad, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn gobeithio ennill achrediad erbyn dechrau'r flwyddyn nesaf. Os felly, hwn fydd yr ail sefydliad yn unig yn y GIG yng Nghymru gyfan i ennill achrediad.
Meddai Hywel Daniel, Cyfarwyddwr Gweithredol Pobl Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: “Mae hyn yn bwysig iawn i ni ac rydyn ni’n teimlo'n angerddol amdano fel sefydliad. Mae'n bwysig pwysleisio ein bod ni eisoes yn talu'r cyflog byw i'n staff. Dyna'r peth iawn i'w wneud.
“Fodd bynnag, mae ennill yr achrediad yn golygu y gallwn ni weithio tuag at sicrhau cyflog teg drwy annog ein contractwyr i dalu’r cyflog byw.
“Rydyn ni hefyd yn deall, yn gwerthfawrogi ac yn gweld drosom ni ein hunain, pa mor bwysig yw economeg gymdeithasol gadarnhaol i iechyd y cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu.”