Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn falch o gyhoeddi ei fod wedi cyflawni Safon Platinwm y Safon Iechyd Corfforaethol. Y Safon Iechyd Corfforaethol, sy'n cael ei rhedeg gan Lywodraeth Cymru, yw'r marc ansawdd cenedlaethol ar gyfer hybu iechyd yn y gweithle ledled Cymru.
Ni all sefydliad gadw'r Safon Platinwm oni bai ei fod wedi llwyddo i gadw'r Safon Aur.
Dyfernir y Safon Platinwm i gyflogwyr sy'n dangos bod datblygu cynaliadwy yn rhan annatod o'u harferion busnes a'u diwylliant ac sy'n rhoi ystyriaeth lawn i'w cyfrifoldebau cymdeithasol corfforaethol.
Mae'r Safon Platinwm hefyd yn cydnabod cyflogwyr cyfrifol sy'n dangos ymrwymiad sefydliadol i gefnogi nid yn unig eu gweithwyr, ond hefyd cyflogwyr eraill a'r gymuned leol.
Yn ogystal â dangos sut y gwnaed gwelliannau yn y chwe maes Platinwm, sef trafnidiaeth, caffael, adeiladu cyfalaf, rheoli cyfleusterau, cyflogaeth a sgiliau ac ymgysylltu â'r gymuned, cyflwynodd y Bwrdd Iechyd astudiaeth achos yn dangos ei ymrwymiad i redeg prentisiaethau. Maen nhw hefyd yn gweithio gyda sectorau eraill gan gynnwys y gymuned i hwyluso amrywiaeth o lwybrau at gyflogaeth a denu pobl i’r GIG.
Meddai Emma George, Aseswr y Safon: "Gwnaeth y dull mwy strategol o ymdrin ag iechyd a lles argraff fawr arnaf i, oedd yn wahanol i ddulliau yn y gorffennol, a sut yn benodol y mae'n ymddangos bod llawer mwy o ffocws ar atal, yn enwedig o ran iechyd meddwl a lles. Fel rhywun o'r tu allan sy'n pregethu byth a hefyd y dylai iechyd a lles fod yn fwy rhagweithiol ac yn rhan integredig o ddiwylliant y sefydliad, mae mor braf gweld hynny, sy'n dangos bod iechyd a lles mewn dwylo da yn bendant wrth symud ymlaen.
"Er bod nifer o flynyddoedd wedi mynd heibio ers yr asesiad Platinwm diwethaf, mae'r agenda wedi magu momentwm a phwysigrwydd ac erbyn hyn mae'n rhan o 'y ffordd rydym yn gwneud pethau', o'r Prif Weithredwr a'r Bwrdd i bob band o staff. Mae cydnabyddiaeth amlwg erbyn hyn bod ‘bod yn gynaliadwy ac yn garbon niwtral’ yn sbardun allweddol i iechyd y boblogaeth ac iechyd y gymuned leol y mae BIP CTM yn ei gwasanaethu.
"Roedd yn fraint clywed am y weledigaeth ar gyfer y dyfodol, gweledigaeth a fydd yn sicr o gyfrannu at les cenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru."
Meddai Claire Nicholas, Pennaeth Polisi, Cydymffurfiaeth a’r Agenda ar gyfer Newid yn y Bwrdd Iechyd: "Roedd bod yn rhan o'r tîm sy'n gyfrifol am gydlynu ein portffolio o dystiolaeth ar gyfer ein gwobr Platinwm yn anrhydedd ac yn werth chweil. Roedd gweld ansawdd ac ehangder ein cyflwyniad cynaliadwyedd, a oedd yn dwyn ynghyd weithgareddau a blaenoriaethau amrywiol ac eang y Bwrdd Iechyd yn y maes hwn, yn wirioneddol ysbrydoledig.
"Mae cadw ein gwobr platinwm yn dyst i waith caled llawer o unigolion a thimau ar draws y Bwrdd Iechyd yn ogystal â'n partneriaid. Mae eu hymrwymiad a'u hymroddiad i'r agenda cynaliadwyedd yn cefnogi nid yn unig ein gweithwyr, ond hefyd cyflogwyr eraill a'r gymuned leol rydym yn ei gwasanaethu yng Nghwm Taf Morgannwg."