Neidio i'r prif gynnwy

BIP Cwm Taf Morgannwg yn brechu ei gleifion cyntaf gyda'r brechlyn newydd rhag COVID-19

Mae cleifion ym Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr ymysg y cyntaf yng Nghymru i gael brechlyn COVID-19 newydd Rhydychen/AstraZeneca yn eu meddygfa leol.

Dechreuodd BIP Cwm Taf Morgannwg ar y gwaith brechu diweddaraf heddiw (Dydd Llun 4fedIonawr), sy’n garreg filltir arall yn y frwydr yn erbyn y pandemig.

Mae BIP Cwm Taf Morgannwg wedi bod yn brechu ei staff yn y rheng flaen â brechlyn Pfizer ers dechrau Rhagfyr y flwyddyn ddiwethaf.

Fodd bynnag, tra bod angen cadw brechlyn Pfizer ar dymheredd o -70°C, gall y brechlyn Rhydychen newydd gael ei storio ar dymheredd oergell arferol. Mae hyn yn golygu ei bod yn llawer haws cludo’r brechlyn at gleifion yn hytrach na’r gwrthwyneb, ac yn golygu hefyd fod y brechlyn ar gael mewn meddygfeydd.

Derbyniodd Meddygfa’r Dderwen ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Phractis Meddygol Pontcae ym Merthyr Tudful y brechlyn heddiw, ac maen nhw eisoes wedi dechrau brechu cleifion.

Roedd Derek Games, sy’n 87 oed, yn un o’r cyntaf i gael ei frechu ym Mhractis Meddygol Pontcae. Mae wedi bod yn gwarchod ei hun gan fwyaf ers dechrau’r pandemig. Dywedodd:“Mae hi’n fraint cael y brechlyn a dwi’n teimlo’n falch iawn fy mod wedi ei gael. Mae fy nheulu yn teimlo’r un peth.

“Allwn i ddim credu’r peth pan ges i’r alwad, a wnes i ddim oedi. Doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn i’n ei gael hyd nes o leiaf diwedd Chwefror neu fis Mawrth.”

Dywedodd Kelechi Nnoaham, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd BIP CTM:“Mae hwn yn ddiwrnod enfawr a hanesyddol arall i Gwm Taf Morgannwg a’n cymunedau yn y frwydr yn erbyn COVID-19.

“Roedd hi’n fraint gweld ein cleifion cyntaf yn derbyn y brechlyn newydd yn eu meddygfa leol.

“Mae’n ein galluogi i flaenoriaethu’r grwpiau hynny o bobl y byddai hi wedi bod yn anoddach i ni roi brechlyn Pfizer iddyn nhw.

“Er bod hwn yn gam pwysig ymlaen, allwn ni ddim llaesu ein dwylo yn achos y feirws hwn. Rydw i’n gofyn i’n cymunedau barhau i ddilyn y cyfyngiadau symud presennol yng Nghymru.

“Mae cyfraddau COVID-19 yn parhau i fod yn uchel yn ein hysbytai, ac mae ein gwasanaethau yn dal i fod dan bwysau aruthrol.”

Mae Cwm Taf Morgannwg yn gofyn i bobl beidio â ffonio eu meddygfa, eu fferyllfa na’r ysbytai, nac i gysylltu â nhw mewn ffyrdd eraill er mwyn holi pryd y byddan nhw’n cael y brechlyn. Byddwn yn cysylltu â phobl mewn grwpiau blaenoriaeth yn unigol a’u gwahodd i glinigau brechu arbennig.