Cafodd BIP CTM ac un o'n Contractwyr Fferylliaeth Gymunedol Annibynnol ei rhoi ar y rhestr fer ar gyfer dwy wobr yng Ngwobrau Fferyllfa 2024.
Mae'r Gwobrau Fferyllfa yn dathlu'r llwyddiannau yn y sector fferylliaeth gymunedol.
Cafodd Carys James a'r Tîm Fferylliaeth Gymunedol eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Hyfforddiant a Datblygu Fferyllfa am gyflwyno ein Menter Rhwydwaith Cyfoedion Fferyllydd-ragnodydd Annibynnol.
Yn ogystal, roedd Anna Matthews o Fferyllfa Nanty, un o'n Contractwyr Fferylliaeth Gymunedol Annibynnol, ar y rhestr fer ar gyfer Fferyllfa Gymunedol Annibynnol y Flwyddyn.
Dywedodd Hannah Wilton, Prif Fferyllydd BIP CTM: "Roeddem wrth ein bodd o weld ein Tîm Fferylliaeth Gymunedol ac un o'n contractwyr fferylliaeth gymunedol annibynnol ar y rhestr fer yng Ngwobrau Fferyllfa 2024. Mae'r gydnabyddiaeth hon yn dyst i'w gwaith caled yn cefnogi ein cymunedau lleol, ac rydym yn falch iawn o Carys ac Anna."
12/12/2024