Da iawn, iawn i Ben Peever, 19 oed o Glynrhedynog, a osododd her iddo’i hun i redeg hanner marathon (13.1 milltir) trwy gydol mis Mawrth i godi arian ar gyfer pecyn C.A.RE. (‘compassion and respect for every loss’) i deuluoedd yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg sydd wedi colli anwyliaid.
Mae dwy chwaer Ben, Ellie a Sophie, yn nyrsys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, ac ar ôl gweld ei ddwy chwaer yn gweithio mor galed trwy gydol y pandemig, ac ar ôl gweld pa mor galed y cafodd ei gymuned ei tharo gan COVID, penderfynodd Ben ei fod am helpu.
Dywedodd Ben: “Mae haelioni’r cyhoedd lleol wedi fy llethu. Rydw i’n teimlo’n wylaidd o ystyried y cymorth gwych rydw i wedi ei dderbyn, ac o ystyried y swm rhagorol o arian sydd wedi ei godi a fydd yn gymaint o gymorth i’n hysbyty lleol.
“Roedd yn her anodd. Yr wythnos gyntaf oedd yr un fwyaf anodd, achos doedd fy nghorff erioed wedi bod trwy gynifer o sesiynau rhedeg o’r blaen. Roeddwn i wedi gosod targedau bach i fi fy hun trwy gydol y mis, ‘gorffen yr wythnos gyntaf’ wedyn ‘cyrraedd 10 diwrnod’, ‘cyrraedd hanner ffordd’, a ‘llwyddo i gyrraedd yr wythnos olaf’, ac o’r pwynt hwnnw ymlaen roedd yn teimlo fy mod ar y trywydd iawn.
“Roedd gorffen y rhediadau yn foment o falchder mawr; roedd yn her wallgof a doeddwn i erioed wedi gwneud rhywbeth fel hyn o’r blaen. Fodd bynnag, ar ôl cwblhau Ironman Tenby Wales yn 18 oed, roeddwn i’n gwybod y gallwn i lwyddo o roi fy mryd arno.
“Hoffwn i ddiolch i fy nheulu a fy ffrindiau hefyd am fy godi fy nghalon yn ystod fy anturiaethau her gwallgof.
Clywodd Ben am y pecyn C.A.R.E y mae staff yn yr Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn ei gynnig i deuluoedd sydd wedi colli anwyliaid, a phenderfynodd ei fod am godi arian am ragor o becynnau. Nod Ben oedd codi £500, a fyddai’n helpu talu am y pecyn, ond 31 diwrnod yn ddiweddarach ac mae Ben wedi codi’r swm anhygoel o £4,040.
Staff yn yr Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg oedd wedi sefydlu’r fenter pecynnau C.A.R.E, i roi pecyn profedigaeth i bobl oedd wedi colli rhywun annwyl.
Nod y pecyn yw helpu teuluoedd i gadw atgofion ac i roi cysur iddyn nhw. Mae’r adran yn rhoi bag bach i deuluoedd gyda chalon bren ag ôl bys yr anwylyd arni, cannwyll, hadau planhigyn ‘forget-me-not’, hancesi, bag Organza i gadw cudyn gwallt ynddo a cherdyn cydymdeimlad. Mae’r pecyn C.A.R.E wedi ei ariannu gan roddion.
Dywedodd Deborah Mathews, Pennaeth Nyrsio Ysbyty Brenhinol Morgannwg: “Diolch enfawr i Ben Peever a’r gymuned am eu rhoddion i’r tîm yn yr Adran Argyfwng, gan y bydd y rhoddion ar gyfer pecynnau C.A.R.E yn gwneud gwahaniaeth anferthol i deuluoedd sydd wedi colli anwylyd yn sydyn. Mae’r atgofion i’w cadw yn y pecynnau yn bethau i’w trysori am byth, a fydd gobeithio yn rhoi cysur i deuluoedd yn y tymor hir a’u helpu yn ystod y broses o alaru.