Neidio i'r prif gynnwy

Arolwg Iechyd Rhywiol Pobl Ifanc BIP Cwm Taf Morgannwg

Ydych chi o dan 25 oed ac yn byw ym Merthyr Tudful, RhCT neu Ben-y-bont ar Ogwr? NEU ydych chi'n adnabod pobl ifanc o dan 25 oed sy'n byw ym Merthyr Tudful, RhCT neu Ben-y-bont ar Ogwr?

Mae Tîm Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIP CTM) yn cynnal arolwg ar gyfer pobl ifanc o dan 25 oed, sy’n gofyn am eu barn ar y gwasanaethau a’r wybodaeth sydd ar gael i’w cefnogi gyda’u hiechyd rhywiol, eu lles a’u perthnasoedd.

Mae cael barn pobl ifanc yn hanfodol i sicrhau bod pobl ifanc yn ein cymunedau yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw o ran eu hiechyd rhywiol a’u lles.

Mae’r arolwg yn ddienw a gellir ei gwblhau drwy ddilyn y dolenni isod:

Fersiwn Saesneg: https://www.smartsurvey.co.uk/s/QF50VA/
Fersiwn Gymraeg: https://www.smartsurvey.co.uk/s/L7QU7K/

Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn ymwneud â’r arolwg hwn, cysylltwch â ni drwy e-bost: ctm.phtsexualhealth@wales.nhs.uk

Mae Tîm Iechyd y Cyhoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIPCTM) yn addo cadw eich gwybodaeth yn ddiogel a’i diogelu rhag cael ei cholli, ei difrodi neu ei rhannu ag unrhyw un na ddylai fod. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y defnydd o'ch data, gallwch chi ddarllen ein hysbysiad preifatrwydd llawn ar ein padlet.

13/06/2024