Gall darpar rieni ar draws ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg nawr gael mynediad digidol at eu cofnodion mamolaeth, yn dilyn lansio ap Badger Notes.
Mae'r system newydd yn rhoi mynediad diogel, amser go iawn i fenywod beichiog a phobl sy'n rhoi genedigaeth i'w gwybodaeth mamolaeth yn uniongyrchol o'u ffôn, tabled neu gyfrifiadur.
Drwy’r ap, gall darpar rieni weld manylion apwyntiadau, canlyniadau profion, adroddiadau sganiau a nodiadau sydd wedi’u cofnodi gan eu bydwraig neu dîm gofal iechyd. Mae gwybodaeth yn cael ei diweddaru mewn amser go iawn, gan helpu teuluoedd i aros yn wybodus drwy gydol beichiogrwydd, genedigaeth a'r cyfnod ôl-enedigol.
Bydd yr ap yn cael ei gyflwyno mewn dau gam. O 17 Mawrth ymlaen bydd unrhyw un sy'n cofrestru beichiogrwydd newydd yn defnyddio'r system newydd. Bydd gan unrhyw un sydd eisoes wedi cofrestru beichiogrwydd cyn y dyddiad hwn fynediad i'r system yn ddiweddarach yn yr haf.
Mae Badger Notes yn caniatáu i ddefnyddwyr chwarae rhan fwy gweithredol yn eu taith mamolaeth. Gall cleifion:
Mae'r ap yn cynnwys nodweddion ychwanegol fel canllaw beichiogrwydd wythnos wrth wythnos, cipolwg ar ddatblygiad babanod, a lle ar gyfer cofnodion dyddiadur personol.
Mae'r holl wybodaeth o fewn Badger Notes wedi'i storio'n ddiogel a'i diogelu gan fanylion mewngofnodi unigol, yn debyg i fancio ar-lein. Yr un system ddiogel sy’n cael ei ddefnyddio gan weithwyr gofal iechyd mamolaeth proffesiynol yw'r platfform, gan sicrhau cyfrinachedd ym mhob cam.
Bydd cyflwyno cofnodion mamolaeth digidol hefyd yn lleihau dibyniaeth ar nodiadau papur. Mae hyn yn helpu i leihau dyblygu gwybodaeth ac yn caniatáu i fydwragedd dreulio mwy o amser yn canolbwyntio ar ofal cleifion.
Er bod y rhan fwyaf o gleifion yn cael eu hannog i ddefnyddio'r ap digidol, bydd unrhyw un nad oes ganddo fynediad at ffôn na dyfais ddigidol yn parhau i gael ei gefnogi'n llawn gyda chofnodion papur.
Dywedodd Richard Hughes, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth: “Rydym wrth ein bodd yn cyflwyno Badger Notes i’n teuluoedd yn CTM. Mae'r ap hwn yn rhoi gwybodaeth bwysig am famolaeth yn uniongyrchol yn nwylo rhieni, gan eu helpu i deimlo'n wybodus, yn rhan o'r broses ac yn cael eu cefnogi drwy gydol eu taith beichiogrwydd.
Mae symud i gofnodion digidol yn caniatáu i’n bydwragedd dreulio llai o amser ar waith papur a mwy o amser yn canolbwyntio ar ofal personol, gan sicrhau bod gwybodaeth yn parhau i fod yn ddiogel ac yn saff.”
17/03/2026