Neidio i'r prif gynnwy
Rhys Phillips

Therapydd Galwedigaethol

Cwm Taf Morgannwg BIP

Amdanaf i

Therapydd Galwedigaethol

Fy ngyrfa mewn therapi galwedigaethol

Mae gweithio fel therapi galwedigaethol cylchdro band 6 ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg (CTM) yn gyfle gwych i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth ar draws amrywiaeth o leoliadau o fewn Therapi Galwedigaethol.

Mae rhai o’r cyfleoedd hyn yn cynnwys adsefydlu ar ôl Strôc, Ailalluogi, Meddygaeth, Trawma ac Orthopaedeg, Paediatreg, Gofal Cymunedol a Sylfaenol, Damweiniau ac Achosion Brys, a Chyswllt Iechyd Meddwl, i enwi dim ond rhai. Mae yna hefyd swyddi newydd a rhai sydd ar ddod, gan gynnwys y Tîm Asesu ac Atal Cyflym (RAP). Mae hon yn fenter gwasanaeth newydd sy'n cynnwys therapyddion galwedigaethol yn gweithio gyda meddygon teulu yn yr Hyb Llywio i ddarparu cyngor therapi galwedigaethol cyflym a thriniaeth i gleifion yn y cartref i atal mynediad i'r ysbyty.

 

Beth mae eich rôl yn ei gynnwys a sut olwg sydd ar ddiwrnod / wythnos arferol?

Ar hyn o bryd rydw i’n gweithio o fewn y Tîm Therapi Dwylo i gleifion allanol yn Ysbyty Cwm Cynon. Mae fy rôl yma yn ymwneud â thrin cleifion ag ystod o anafiadau a chyflyrau dwylo a allai fod angen llawdriniaeth neu beidio. Yn yr un modd â phob rôl therapi galwedigaethol, ein nod o fewn y gwasanaeth hwn yw galluogi cleifion i ddychwelyd i weithgareddau sy'n ystyrlon iddyn nhw a gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau bywyd beunyddiol (ADL). Mae hyn yn gofyn am ddealltwriaeth o anatomeg dwylo, cyflyrau dwylo a sut maen nhw’n cael eu trin. Mae datblygu fy ngwybodaeth mewn anatomeg dwylo a mecaneg sut mae'r llaw yn gweithio wedi bod yn her gadarnhaol rydw i wedi'i mwynhau. Mae'r lleoliad hwn hefyd wedi rhoi'r cyfle i fi ddatblygu sgiliau a chymwyseddau i wneud sblintiau, sy'n wych - os nad ychydig yn nerfus ar adegau! Mae gweld sut y galla i helpu cleifion yn ymarferol a'u gweld yn gwneud cynnydd bob wythnos gydag adsefydlu dwylo arbenigol wedi bod yn werth chweil.

O fewn y tîm, rydw i hefyd wedi cael cyfle i gyfrannu at ddatblygiad y gwasanaeth. Rydw i wedi archwilio sut mae'r gwasanaeth yn perfformio o ran trin anafiadau morthwyl ac wedi darparu hyfforddiant ar ansefydlogrwydd yn yr arddwrn. Mae'r amser penodedig 'Cefnogi Gweithgareddau Proffesiynol' (SPA) a ddarparwyd gan y Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol wedi rhoi'r cyfle i fi baratoi ac ymchwilio'n ddigonol i'r prosiectau hyn. Mae fy nhîm Therapi Galwedigaethol wedi fy nghefnogi'n fawr yn fy rôl, yn enwedig wrth drin cleifion â chyflyrau mwy cymhleth. Mae gennym ni berthynas wych o fewn y tîm, lle rydw i nid yn unig yn eu galw'n gydweithwyr i fi ond hefyd yn ffrindiau i fi. (Mae Therapi Galwedigaethol yn broffesiwn cyfeillgar iawn!).

 

Pam wnaethoch chi ddewis gyrfa mewn Therapi Galwedigaethol?

Dewisais therapi galwedigaethol oherwydd fy mod i eisiau helpu pobl. Roedd gofalu am fy chwaer fach sydd ag anghenion cymhleth wir wedi meithrin hyn ynof i. Roedd gweld sut y gwnaeth therapi galwedigaethol ei helpu yn agoriad llygad ac wedi gwneud i fi feddwl pa mor werth chweil yw therapi galwedigaethol; mae’n cael effaith gadarnhaol a sylweddol ar fywydau pobl. Ar ôl gweithio fel therapydd galwedigaethol ers nifer o flynyddoedd bellach, galla i dystio i hyn bellach. O fewn therapi dwylo, un o fy uchafbwyntiau mwyaf yw cefnogi merch ifanc oedd â bys anystwyth iawn nad oedd yn gallu plygu ac oedd yn achosi poen iddi hi. Wrth ei gweld yn rheolaidd, fe wnes i nifer o wahanol fathau o sblintiau iddi hi gan ddefnyddio rhesymeg glinigol a defnyddio fy sgiliau datrys problemau i oresgyn rhwystrau fel ei phoen a’i gwaith. Mae hi bellach yn gallu ymestyn ei bys yn dda ac mae ei phoen wedi lleihau sydd wedi bod yn werth chweil ac yn galonogol iawn fel therapydd clinigol.

Gan ddechrau yn fy ngyrfa fel band 5 ar gylchdro, ces i’r cyfle i weithio ar ward feddygol yn un o’r ysbytai mwyaf yng ngorllewin Cymru, a dilynwyd hyn yn agos gan leoliad paediatrig 12 mis a fwynheais yn fawr. Yn dilyn hyn bues yn gweithio fel therapydd galwedigaethol sefydlog band 6 o fewn Ailalluogi Castell-nedd Port Talbot ac ers hynny rydw i wedi bod yn ffodus i sicrhau swydd gylchdro band 6 o fewn Bwrdd Iechyd CTM. Roeddwn i eisiau ysgrifennu'r rhain dim ond i dynnu sylw at faint o wahanol leoliadau y gallwn ni weithio ynddyn nhw o fewn therapi galwedigaethol, sy'n wych yn fy marn i!

 

Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i rywun sy'n chwilio am swydd mewn Therapi Galwedigaethol?

Pe bawn i'n rhoi cyngor i fy hunan ifanc o ran gwneud cais am swydd gylchdro band 6, byddwn yn dweud 'cer amdani'. Gall mynd am swydd band uwch ymddangos yn frawychus ar y pryd, yn aml ynghyd â theimlad o amheuaeth a theimladau 'alla i ddim ei gwneud hi'. Fodd bynnag, mae jyst 'mynd dani’ wedi fy ngalluogi i sicrhau'r swydd wych hon a dyma'r cyflawniad mwyaf yn fy ngyrfa Therapi Galwedigaethol hyd yma. Er bod mwy o gyfrifoldebau yn gweithio fel band 6, mae Therapi Galwedigaethol yn broffesiwn cyfeillgar iawn ac rydw i’n ffodus o gael tîm gwych sydd nid yn unig yn fy nghefnogi gyda materion ymarferol gweithio fel band 6, ond sydd hefyd yn fy annog i barhau i ymdrechu i fod y therapydd galwedigaethol gorau y galla i fod. Rydw i hefyd am ddweud, does dim byd gyda chi i'w golli trwy wneud cais am swydd band 6 cylchdro - mae cyfweliadau bob amser yn arfer da!

 

Beth yw eich camau nesaf neu eich dyheadau gyrfa yn y dyfodol?

Fy ngham nesaf yn fy ngyrfa therapi galwedigaethol yw paratoi ar gyfer fy nghylchdro nesaf. Er y bydda i’n drist iawn o adael y tîm gan fy mod yn teimlo ein bod yn deulu bach agos, rydw i’n edrych ymlaen at gyfleoedd newydd a chyffrous i ddatblygu fy sgiliau therapi galwedigaethol. Rydw i’n gobeithio dechrau fy antur nesaf o fewn paediatreg ac yn teimlo bod therapi dwylo wedi bod yn gam perffaith i gefnogi fy ngwybodaeth broffesiynol cyn mynd i faes paediatreg.

Dilynwch ni: