Fferyllydd Arweiniol a Phresgripsiynydd Anfeddygol
Cwm Taf Morgannwg BIP
Fferyllydd Arweiniol a Phresgripsiynydd Anfeddygol
Fy ngyrfa mewn Fferylliaeth
Rydw i’n gweithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol mawr , ac yn fy rôl rydw i’n cynnal clinigau i reoli titradu a monitro meddyginiaeth sy’n cael ei phresgripsiynu ar gyfer plant ag ADHD (anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd) ac ASD (anhwylder ar y sbectrwm awtistig).
Beth mae eich rôl yn ei gynnwys a sut olwg sydd ar ddiwrnod/wythnos arferol?
Rydw i wedi cwblhau fy nghymhwyster presgripsiynu annibynnol ac oherwydd rydw i’n asesu, monitro a thitradu meddyginiaeth yn annibynnol yn fy nghwmpas ymarfer, sef ADHD yn bennaf, ond hefyd symptomau sy’n gysylltiedig ag ASD (fel anhawster gyda chwsg). Yn ystod fy nghlinig rydw i’n gwirio pwysau, taldra, pwysedd gwaed a churiad y galon plentyn, ac yn casglu gwybodaeth o ffynonellau lluosog gan gynnwys rhieni / gofalwyr, y plentyn a’u hysgol er mwyn gwneud penderfyniadau clinigol ynghylch eu meddyginiaeth. Mae fy wythnos arferol yn cynnwys 3 chlinig, lle bydda i fel arfer yn gweld 5 claf fesul clinig. Rydw i’n rheoli fy llwyth achosion fy hun ac yn ysgrifennu llythyrau clinig ar gyfer pob plentyn rydw i’n weld. Rydw i hefyd ar gael i'n clinigwyr ar gyfer unrhyw ymholiadau yn ymwneud â meddyginiaeth, ac rydw i hefyd yn cymryd rhan mewn goruchwyliaeth glinigol gydag aelodau eraill o'n tîm amlddisgyblaethol i drafod achosion cleifion anodd. Ynghyd ag un o fy nghydweithwyr, rydw i hefyd yn rheoli pob un o’r presgripsiynau rheolaidd ar gyfer y plant yn ein gwasanaeth.
Pam wnaethoch chi ddewis gyrfa yn y Gwasanaeth Niwroddatblygiadol?
Mae fy nghefndir mewn paediatreg, ac mae gweithio gyda phlant yn rhoi boddhad mawr i mi. Mae fy rôl yn gwbl glinigol, sy'n hynod ddiddorol ac amrywiol, nid oes yr un diwrnod yn GN. Rydw i’n angerddol iawn am Niwroamrywiaeth, ac mae'r rheolaeth yn ddiddorol iawn. Rydw i’n hoffi bod fy rôl yn annibynnol iawn, ond gyda llawer o gefnogaeth gan ein tîm sy’n cynnwys paediatregwyr, seiciatryddion, nyrsys arbenigol, gweithwyr cymorth gofal iechyd, therapyddion iaith a lleferydd, therapyddion galwedigaethol ac (yn bwysicaf oll!) ein tîm gweinyddol.
Beth yw eich cefndir addysgol a gyrfaol a arweiniodd at eich sefyllfa bresennol?
Cwblheais fy ngradd Meistr mewn Fferylliaeth ym Mhrifysgol John Moore yn Lerpwl, graddiais yn 2018. Fe wnes fy mlwyddyn cyn-gofrestru yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, a phasiais arholiad cofrestru’r Cyngor Fferyllol Cyffredinol yn llwyddiannus yn 2019 a chofrestrais fel fferyllydd. Rydw i bob amser wedi gweithio ym maes gofal eilaidd, a dechreuais ar fy ngyrfa fel fferyllydd diploma yn Ysbyty Tywysoges Cymru, lle gwnes i gylchdroi trwy arbenigeddau lluosog wrth gwblhau fy Niploma
Ôl-raddedig mewn Fferylliaeth Glinigol gyda Phrifysgol Caerdydd. Yn ystod y cyfnod hwn cefais fy mhrofiad cyntaf o weithio ym maes Paediatreg, ac roeddwn wrth fy modd! Ar ôl cwblhau fy niploma yn 2021, llwyddais i gael swydd Fferyllydd Clinigol cylchdro yn Ysbyty’r Tywysog Siarl, a dilynwyd hynny’n gyflym gan fy swydd fel y Fferyllydd Arweiniol ar gyfer Paediatreg, Addysg a Hyfforddiant yn 2022. Yna es ymlaen i wneud fy modiwl DPP Ôl-raddedig mewn Ymarfer Fferylliaeth Paediatrig Uwch gyda Phrifysgol John Moores Lerpwl yn 2022, a chwblhau fy Modiwl presgripsiynu annibynnol gyda Phrifysgol Caerdydd yn 2023. Yn ystod y cyfnod hwn roeddwn hefyd yn gweithredu fel Cyfarwyddwr Rhaglen Hyfforddiant ar gyfer y Rhaglen Fferyllwyr Sylfaen ar safle ein hysbyty, ac yn bersonol wedi cefnogi 3 fferyllydd dan hyfforddiant a aeth ymlaen i gwblhau eu hasesiadau cofrestru yn llwyddiannus ac ymuno â'r gofrestr fel fferyllwyr cymwys. Gyda chefnogaeth y paediatregwyr anhygoel y bûm yn gweithio gyda nhw yn Ysbyty’r Tywysog Siarl, daeth y cyfle i’r amlwg i gefnogi clinigau fel presgripsiynydd annibynnol ar gyfer y gwasanaeth niwroddatblygiadol, a gwnes hynny am 50% o’m hamser nes i mi lwyddo i gael fy rôl amser llawn o fewn niwroddatblygiadol yn 2024.
Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i rywun sy'n chwilio am swydd yn y Fferylliaeth?
Meddyliwch y tu allan i'r bocs! Mae mwy o gyfleoedd i Fferyllwyr ac mae’r rôl bob amser yn datblygu, yn enwedig mewn rolau clinigol fel fy un i. Peidiwch â meddwl am fferyllydd fel rhywun sy'n gweithio mewn fferyllfa gymunedol, fferyllfa ysbyty neu mewn diwydiant, chwiliwch am gyfleoedd a byddwch bob amser yn chwilfrydig. Mae fferylliaeth yn yrfa werth chweil a all eich arwain i gymaint o wahanol gyfeiriadau ac arbenigeddau.
Beth yw eich camau nesaf neu eich dyheadau gyrfa yn y dyfodol?
Y cam nesaf i mi yw cwblhau fy mhortffolio ymgynghori gyda'r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol yr ydw i’n yn gweithio tuag ati ar hyn o bryd, gyda'r nod o ddod yn fferyllydd ymgynghorol o fewn y 5 mlynedd nesaf.