Neidio i'r prif gynnwy

Dywedodd Gavin Llewellyn Tiwtor yng Ngholeg Merthyr Tudful: 

“Mae taith Tristan yn CTM wedi bod yn enghraifft wych o waith caled, twf a phenderfyniad. 

Ers ymuno â'r Adran Lieiniau, mae Tristan wedi profi ei werth yn gyflym trwy ymgymryd â thasgau yn gyson gydag ymroddiad ac agwedd gadarnhaol. Mae ei ymrwymiad i ddysgu a hunan-wella wedi bod yn amlwg ym mhopeth mae’n wedi ei wneud. 

Mae Tristan wedi croesawu adborth gan ei gydweithwyr, gan wrando a dysgu ar bob cyfle. Mae'r ymroddiad hwn wedi ei helpu i ddod yn weithiwr hyderus, annibynnol, sy'n gallu ymdrin â'i gyfrifoldebau'n rhwydd. 

Er iddo ddechrau ei daith yn yr adran braidd yn dawel, mae Tristan wedi dod allan o'i gragen mewn ffyrdd rhyfeddol. Mae wedi dod o hyd i’w lais, wedi meithrin cysylltiadau cryf â’r tîm, ac wedi dod yn rhan annatod o’r adran. 

Da iawn ti, Tristan! Mae dy dwf a dy ymagwedd ddiwyd at dy waith yn wirioneddol ysbrydoledig. Dyma ddweud diolch o galon hefyd i’r staff anhygoel sydd wedi ei gefnogi ar hyd y ffordd. Dalia ati gyda'r gwaith gwych, rwyt ti’n cael effaith go iawn!”