Neidio i'r prif gynnwy
Declan

Amdanaf i

Dywedodd Gavin Llewellyn Tiwtor yng Ngholeg Merthyr Tudful: 

“Mae trawsnewidiad anhygoel Declan dros yr ychydig fisoedd diwethaf wedi bod yn ddim llai nag ysbrydoledig. 

Pan ymunodd Declan â rhaglen Project SEARCH yn Ysbyty’r Tywysog Siarl am y tro cyntaf ym mis Ebrill 2024, roedd yn dawel ac yn swil. Fodd bynnag, mewn cyfnod byr yn unig, mae ei hyder wedi cynyddu gymaint, ac mae bellach yn hyderus yn dosbarthu post yn annibynnol, gan ddangos twf rhyfeddol a phrofi ei hun i fod yn aelod gwerthfawr o deulu CTM. 

Mae agwedd ddiwyd Declan at ei waith yn amlwg bob dydd wrth iddo ddangos parodrwydd cyson i ymgymryd â thasgau newydd. Mae ei agwedd gadarnhaol a'i ymroddiad nid yn unig yn ei wneud yn ased i'r rhaglen interniaeth ond hefyd yn adlewyrchu ei dwf personol a'i ymrwymiad i'w rôl. 

Hoffen ni ddweud diolch yn fawr iawn i’r staff yn yr ystafell bost am eu cefnogaeth ddiwyro. Ers ymuno â’r rhaglen, maen nhw wedi croesawu Declan â breichiau agored, gan ei helpu i ddatblygu’n broffesiynol ac yn gymdeithasol. Mae Declan bellach yn gweithio'n annibynnol i raddau helaeth, gan gyflawni ei ddyletswyddau'n hyderus a theimlo'n gartrefol o fewn y tîm. 

Mae cynnydd Declan yn ganlyniad uniongyrchol i’r gefnogaeth wych gan ei fentoriaid, Colin a Jess. Mae eu harweiniad a'u hanogaeth wedi bod yn allweddol wrth helpu Declan i dyfu'n broffesiynol ac yn bersonol. 

Rhannodd Colin, “Mae wedi bod yn bleser pur cael Declan yma gyda ni. Mae’n gwneud yn dda iawn.” Ychwanegodd Jess, “Mae Declan wedi bod yn help mawr i ni yma yn yr ystafell bost. Byddwn yn gweld ei eisiau pan aiff ar ei gylchdro nesaf.” 

Da iawn, Declan! Mae dy hyder, dy ymroddiad a dy waith caled yn wirioneddol ysbrydoledig. Ymlaen â'r gwaith anhygoel - rwyt ti’n cyflawni pethau anhygoel!” 

Dilynwch ni: