Awdiolegydd
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Awdiolegydd
Dathlu Diwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth
Rwy’n gweithio fel Awdiolegydd i Oedolion o fewn y GIG ac wedi gwneud hynny ers graddio o’r brifysgol yn 2023. Mae fy rôl yn cynnwys asesu gweithrediad y clyw, gwneud diagnosis o golled clyw, a darparu gofal clyw perthnasol i'n cleifion. Mae hyn yn cynnwys gosod a rhaglennu cymhorthion clyw, darparu cyngor ac adsefydlu, a chynnal a chadw cymhorthion clyw.
Roeddwn bob amser yn gwybod fy mod eisiau gweithio ym maes gwyddoniaeth neu ofal iechyd, ond doeddwn i ddim yn siŵr pa faes oedd yn apelio ata i, a gyda chymaint o opsiynau roedd yn llethol ar y dechrau. Pan oeddwn yn fyfyriwr coleg, treuliais beth amser yn ymchwilio i wahanol lwybrau gyrfa ac ar ôl ychydig o feddwl, gwirfoddolais i arsylwi clinigau yn fy adran awdioleg leol am ychydig oriau bob wythnos - ac roeddwn i wrth fy modd! Fe gliciodd rhywbeth pan welais gymorth clyw yn cael ei osod am y tro cyntaf ac roeddwn i’n gwybod fy mod eisiau helpu pobl yn y ffordd honno. Felly, ar ôl coleg, gwnes i gais am un cwrs prifysgol yn unig – Awdioleg ym Mhrifysgol Abertawe. Dywedodd fy nghynghorydd gyrfaoedd yn y coleg wrthyf fod cael dim cyrsiau ail ddewis yn benderfyniad gwael, ond rwy’n meddwl y byddai wedi bod yn anodd astudio rhywbeth heb fod yn angerddol amdano. Roedd yr angerdd a ddatblygais ar gyfer awdioleg bron yn syth, ac felly roeddwn yn gwybod mai hwn oedd yr unig gwrs yr oedd gen i ddiddordeb ynddo.
Mae'n hawdd cymryd eich clyw yn ganiataol, ond mae gweithio fel awdiolegydd wedi dangos i mi faint o effaith y gall hyd yn oed colli clyw ysgafn ei chael ar ansawdd bywyd rhywun. Mae gallu rhaglennu cymorth clyw i gyd-fynd â cholled clyw penodol pob claf yn anhygoel, a dim ond wrth i mi ennill mwy o brofiad y mae fy sgiliau fel clinigwr wedi cynyddu. Rhan fawr o fy mywyd o ddydd i ddydd yw sicrhau bod cleifion yn gyfforddus â sain a ffit eu cymhorthion clyw, a’u bod yn magu hyder wrth eu defnyddio. Gweld y gwahaniaethau y mae cymhorthion clyw wedi'u gwneud ar eu bywydau yn ystod apwyntiadau dilynol yw'r rhan fwyaf gwerthfawr o fy rôl!
Mae awdioleg yn faes gweithgar iawn i fenywod ac anogir dilyniant a datblygiad bob amser. I fenywod neu ferched eraill sydd am fynd i mewn i awdioleg, byddwn yn argymell gwneud ymchwil flaenorol i'r pwnc a chael rhywfaint o brofiad clinigol ymarferol os gallwch chi!
Eleni, rwy’n dechrau modiwl DPP gyda Phrifysgol Manceinion ar ddementia, i’m helpu i ddarparu gwell gofal i’r nifer fawr o’n cleifion sy’n cael eu heffeithio gan ddementia. Fy nod ar gyfer fy ngyrfa yn y dyfodol yw parhau i ddysgu a datblygu, tyfu yn fy nghariad at y swydd hon, a lledaenu ymwybyddiaeth i fenywod a merched mewn gwyddoniaeth!