Neidio i'r prif gynnwy

Rheoli eich moddion

Beth i’w wneud os oes angenmeddyginiaeth frysarnoch yn yr Eisteddfod…

Cofiwch ddod â'ch holl feddyginiaethau gyda chi — mae hyn yn cynnwys unrhyw mewnanadlyddion, EpiPens, pils atal cenhedlu a gwrth-histaminau.

Os oes gennych gyflwr fel diabetes neu epilepsi sy'n golygu y gallech fynd yn sâl yn sydyn yna gwisgwch freichled neu tlws crog MedicAlert a gwnewch yn siŵr bod eich ffrindiau sy'n teithio gyda chi yn gwybod am eich cyflwr.

Efallai y bydd gennych ap meddygol defnyddiol hefyd ar eich ffôn — gwnewch yn siŵr bod hyn yn gyfredol ac wedi'i alluogi.
 

Beth i'w wneud os ydych wedi anghofio neu golli eich meddyginiaeth:

  • Byddy canllaw hunangymorth GIG 111 hwn ar gyfer meddyginiaeth ar bresgripsiwnyn eich helpu i benderfynu pwy i gysylltu â nhw am ragor o feddyginiaeth.
  • Os teimlwch fod angen i chi siarad â rhywun, bydd stiward yr Eisteddfod yn gallu eich cyfeirio at weithiwr meddygol proffesiynol am gyngor.   
  • Mae’n bosibl y bydd ein fferyllfeydd cymunedol lleol yn gallu rhoi meddyginiaeth arall i chi, os ydych naill ai wedi colli eich meddyginiaeth, neu wedi anghofio dod ag ef gyda chi…
    1. Byddwch yn gallu cerdded i mewn i unrhyw un o'r fferyllfeydd lleol yn ystod oriau agor arferol.
    2. Bydd angen i chi fod yn barod i aros i siarad â fferyllydd ar adegau prysur.  
    3. Efallai y bydd angen i chi ddarparu prawf adnabod a gallu cadarnhau manylion eich meddyginiaeth cyn y gellir gwneud cyflenwad. 
    4. Efallai na fydd fferyllfeydd yn gallu cyflenwi pob meddyginiaeth.
Dilynwch ni: