Mae ymroddiad, tosturi ac ymrwymiad rhyfeddol staff a gwirfoddolwyr ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIP CTM) yn cael eu dathlu drwy Wobrau Blynyddol Seren, gydag aelodau'r cyhoedd yn chwarae rhan allweddol wrth gydnabod y rhai sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn.
Rydym yn siomedig bod Unite wedi gwrthod cynnig y bwrdd iechyd a fyddai wedi dod â streic hirfaith rhai o'n hymwelwyr iechyd i ben.
Bydd Mynedfa’r De Ysbyty Brenhinol Morgannwg ar ddydd Llun 24 Awst, ac rydym yn gofyn i bob claf ac ymwelydd fynd i mewn i'r ysbyty drwy'r brif fynedfa.
Mae teulu wedi canmol staff yn Ysbyty'r Tywysog Siarl am y gofal a'r gefnogaeth ragorol a gawsant wrth fynychu am driniaeth ddeintyddol o dan anesthetig cyffredinol.
Mae Byrddau Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Caerdydd a'r Fro ac Aneurin Bevan wedi cael eu llongyfarch gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd am eu cyfraniad at dreial ymchwil EVOCC.
Bydd dau brosiect iechyd meddwl newydd sy'n cael eu datblygu yng Nghwm Taf Morgannwg yn cyfrannu at raglen ymchwil genedlaethol sy'n anelu at wella mynediad, profiad cleifion a chanlyniadau i bobl sydd angen gofal.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer dwy Wobr HSJ genedlaethol fawreddog; un i gydnabod ei ddull arloesol dan arweiniad y gymuned o gyfathrebu ynghylch brechiadau gaeaf, a'r llall am ei wasanaeth PIPYN sy'n anelu at gefnogi plant (3-10 oed) a'u teuluoedd i wneud dewisiadau iach cynaliadwy.
Mae intern Project SEARCH, Daniel Jenkins, wedi llwyddo i sicrhau swydd barhaol fel Cydlynydd Llif y Cleifion Band 2 o fewn yr adran Radioleg cymunedol.
Bydd teuluoedd sy'n aros yn yr Uned Babanod Newydd-anedig Ysbyty'r Tywysog Siarl yn elwa o ardaloedd teuluol mwy croesawgar a chyfforddus, yn dilyn gwelliannau a wnaed yn bosibl oherwydd rhodd hael o £10,000 gan Merthyr Cage Bird Society.
Dyma hysbysiad y bydd cyfarfod o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn cael ei gynnal Ddydd Iau, 30ain Gorffennaf 2026 am 10:00yb yn yr Hyb, Safle Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Llantrisant, CF72 8XR.
Mae’n dda gennym eich gwahodd chi i ymuno â Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg Ddydd Iau 30ain Gorffennaf 2026 am 9:15yb lle bydd y Bwrdd Iechyd yn derbyn ei Adroddiad Blynyddol a’i Gyfrifon Blynyddol ar gyfer 2025/2026 yn ffurfiol.
Fel rhan o Wythnos Natur Cymru (4ydd - 12fed Gorffennaf), rydym yn annog staff ac ymwelwyr i ddarganfod cyfleoedd lleol i gysylltu â natur a chefnogi eu lles trwy gerdded a gwneud gweithgareddau awyr agored.
Mae cleifion ledled Cwm Taf Morgannwg yn elwa o fynediad gwell at lawdriniaeth cataractau diolch i raglen ranbarthol sydd wedi cyflawni mwy na 25,000 o weithdrefnau ledled De-ddwyrain Cymru yn ystod y 12 mis diwethaf.
Mae tîm Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Cwm Taf Morgannwg wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Tîm y Flwyddyn 2026 y Nursing Times, gan gydnabod ei waith rhagorol i drawsnewid gwasanaethau awtistiaeth a gwella gofal i bobl ledled y rhanbarth.
Cyn dechrau'r flwyddyn academaidd newydd, mae pobl ifanc cymwys yng Nghymru yn cael cynnig brechiad am ddim yn erbyn clefyd meningococol B (MenB), fel rhan o raglen gyfyngedig ei hyd a gyflwynwyd mewn ymateb i'r achosion diweddar o'r clefyd ledled y DU.
Bydd y brechiad MenB yn cael ei gynnig i bawb 17 a 18 oed a aned rhwng 01/09/2007 a 31/08/2008.
Thema Wythnos Cynllunio Gofal y Dyfodol eleni yw Un Sgwrs Ystyrlon.
Mae dau godwr arian â gwreiddiau yn y Rhondda wedi cwblhau her gerdded anhygoel o 1,047 milltir o amgylch perimedr Cymru, gan godi £2,000 ar gyfer Elusen GIG CTM ac Uned Gofal Dwys (ICU) Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
Gall unrhyw un fynd yn sâl pan fydd y tywydd yn boeth. Y rhai sydd fwyaf mewn perygl yw pobl hŷn, yn enwedig y rhai dros 65 oed, plant ifanc iawn, pobl â chyflyrau meddygol sy'n bodoli eisoes a'r rhai sy'n byw ar eu pen eu hunain neu mewn cartrefi gofal.
Wrth i ni nodi Wythnos y Lluoedd Arfog a myfyrio ar yr aberthau a wnaed gan y rhai sy'n gwasanaethu ac sydd wedi gwasanaethu, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morganwg yn anrhydeddu ac yn dathlu gwasanaeth a chyfraniad ein cymuned Lluoedd Arfog, gan gynnwys personél sy'n gwasanaethu, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn a'u teuluoedd.