Mae gosodwaith celf newydd pwerus wedi'i ddadorchuddio yn Ysbyty'r Tywysog Siarl i gydnabod rhoddwyr organau a'u teuluoedd, ac i ysbrydoli mwy o bobl ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIPCTM) i gofrestru eu penderfyniad i roi organau.
Enillodd Tîm Biocemeg Glinigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morganwg (BIP CTM) Wobr Sefydliad Gwyddor Biofeddygol (IBMS) am Gynaliadwyedd, yn seremoni wobrwyo IBMS a gynhaliwyd yn Llundain ar 4ydd Gorffennaf, 2025.
Rydym wrth ein bodd yn rhannu bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, gyda chefnogaeth Tîm Canser Cenedlaethol GIG Cymru, wedi cael ei enwi'n enillydd Gwobr Eric Watts am Ymgysylltu â Chleifion yng Ngwobrau Rhagoriaeth mewn Gofal Cleifion Coleg Brenhinol y Meddygon 2025.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi partneru â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Prifysgol Caerdydd, Interlink RhCT ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i sefydlu'r Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Rhondda Cynon Taf, sy'n cael ei gyd-arwain gan y Cyngor a Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP).
Mae lle cwrt newydd yn Ysbyty'r Tywysog Siarl bellach ar agor i staff ac ymwelwyr ei fwynhau, diolch i gydweithrediad rhwng Elusen GIG Cwm Taf Morgannwg, Tilbury Douglas a thîm o bartneriaid y gadwyn gyflenwi.
Mae Adrannau Argyfwng Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Ysbyty'r Tywysog Siarl ac Ysbyty Tywysoges Cymru wedi derbyn Statws Efydd GreenED gan Goleg Brenhinol Meddygaeth Frys.
28 Gorffennaf yw Diwrnod Hepatitis y Byd. Yng Nghwm Taf Morgannwg mae gennym Gynllun Dileu Hepatitis tair blynedd ar gyfer 2024 - 2027 a Gweithgor Dileu.
Mae ymgyrch newydd a chafodd ei lansio gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn gofyn i'w drigolion lleol helpu i arddangos y lleoedd sy'n gwneud ein cymunedau yn unigryw.
25 Gorffennaf i 3 Awst 2025 yw Wythnos Caru Parciau: Dathliad wythnos o hyd sy'n tynnu sylw at y rôl hanfodol y mae mannau gwyrdd yn ei chwarae wrth roi hwb i iechyd a lles trigolion a chymunedau.
Bydd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn cael ei gynnal dydd Iau 31 Gorffennaf 2025 am 9:15am yn yr Hwb, Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Llantrisant.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi partneru â getUBetter i ddarparu ap am ddim
Cymerwch olwg o gwmpas ein hysbyty bach dros dro sydd wedi'i adeiladu'n bwrpasol ar safle Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnal rhaglen frechu dal i fyny i blant dros wyliau'r ysgol rhwng 4ydd a 22ain Awst.
Heno (dydd Mercher 16 Gorffennaf) fydd gwasanaeth switsfwrdd ein tair ysbyty cyffredinol dosbarth (Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Ysbyty'r Tywysog Siarl ac Ysbyty Tywysoges Cymru) ddim ar gael am tua 10 munud am 7pm. Mae hyn oherwydd diweddariadau pwysig sy'n cael eu gwneud i'r system.
Rydym yn gyffrous i lansio proses adborth newydd ar gyfer cleifion sy'n derbyn gofal gan ein Gwasanaeth Nyrsio Ardal.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn dathlu heddiw ar ôl cael ei enwi ar restr fer Gwobrau GIG Cymru ar gyfer 2025.
Mae Mynedfa 4 newydd sbon Ysbyty'r Tywysog Siarl bellach wedi'i chwblhau ac ar agor i'w defnyddio gan y cyhoedd.
Enillodd BIPCTM dair gwobr yn ail Gynhadledd a Gwobrau Cynaliadwyedd GIG Cymru a gynhaliwyd yn Arena Abertawe ddydd Gwener 20 Mehefin.
Heddiw, cyhoeddodd Comisiwn Bevan, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, lansiad ei ail raglen "Mabwysiadu, Lledaenu ac Ymgorffori".
Ymwelodd teulu cyn-glaf canser y pen a'r gwddf, Roger Thomas, â'r tîm a ofalodd amdano yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn ddiweddar i wneud rhodd er cof amdano.