Byw a Gweithio Gyda'n Gilydd yn Ystyriol yn CTM - gydag Ymwybyddiaeth, Cydbwysedd a Thosturi.
Gall cyrchu un o'n sesiynau neu gyrsiau ar fyw a gweithio'n ystyriol eich cefnogi gyda technegau, arferion a gwybodaeth. Gall hyn helpu i gefnogi rheoleiddio emosiynau, gwella ein lles a'n helpu i ddod yn fwy craff. Wrth i ni ddod yn fwy ymwybodol o'n meddyliau, ein teimladau a'n hemosiynau efallai y byddwn ni’n cael ei llethu’n llai ganddyn nhw ac efallai y bydd hi'n haws i ni eu derbyn a'u rheoli.
Mae'r holl sesiynau a chyrsiau rydyn ni’n eu cynnig yn cynnwys elfennau o dosturi. Gall dysgu a deall y manteision a ddaw yn sgil arferion tosturi helpu i wella ac ymgorffori hunandosturi fel arfer a sgil bywyd. Trwy fyfyrdod ar sail tosturi a defnyddio offer, technegau ac adnoddau trwy gydol ein sesiynau a'n cyrsiau, gallwch chi ddysgu arferion i'ch cefnogi i lywio emosiynau anodd, cyflyrau meddwl, profiadau a hunan-siarad a byw bywyd mwy ystyriol.
Myfyrdod yw'r broses o ddod i adnabod eich hun yn llwyr, pwy ydych chi y tu mewn a sut rydych chi'n ymateb i beth sydd y tu allan. Trwy fyfyrio, efallai y byddwch chi'n darganfod 'fi' gwahanol iawn i'r person a allai fod dan straen neu'n gythryblus, y person sy'n ymddangos ar yr wyneb fel 'fi'. Yn aml, mae cyfranogwyr yn rhannu eu bod wedi gweld gwelliant mawr yn eu hymwybyddiaeth bersonol a pherthnasol, ac maen nhw’n aml yn profi gwelliant yn eu lles ar ôl mynychu'r sesiynau a'r cyrsiau hyn.
Mae gennym yr opsiynau canlynol ar gael, a bydd y rhain yn cael eu trafod gyda chi yn ystod eich apwyntiad asesiad cychwynnol
(cwrs 4 wythnos, pob sesiwn 2 awr) (this to be a drop down so that it can be expanded / collapsed to view this text)
Mae ein cwrs ar-lein pedair wythnos, dwy awr yn ymdrin â phedair piler sylfaenol y grefft o Ffynnu: Ymwybyddiaeth; Cydbwysedd; Tosturi ac Ymroddiad. Sut rydym yn gwella ac yn datblygu Aeddfedrwydd Emosiynol, Gwytnwch a Ffynnu trwy ddod â Thosturi ac Ymwybyddiaeth Ofalgar yn fyw!
Byddwn yn ymdrin â thechnegau sylfaenol ac ymgorffori arferion ystyriol, ynghyd â modelau Seicoleg Gadarnhaol a all wella lles, cefnogi Rheoleiddio Emosiynol, a lleihau pryder canfyddedig. Mae hwn yn gwrs annibynnol ac mae'n sail i'r Cwrs Byw seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar y gellir ei wneud yn nes ymlaen i ddyfnhau ymarfer a chyfnerthu dysgu.
4 x sesiwn wythnosol
2 awr
Fel arfer yn cael ei gynnal ar Microsoft Teams.
(cwrs 8 wythnos, pob sesiwn 2 awr) (this to be a drop down so that it can be expanded / collapsed to view this text)
Cwrs blaengar sy'n adeiladu ar sylfeini Ymwybyddiaeth Ofalgar sy'n Seiliedig ar Dosturi. Pan rydyn ni'n dysgu rhoi sylw i beth sy'n digwydd ar hyn o bryd, gallwn ni gael mewnwelediad a deall ein meddyliau, ein hymatebion emosiynol a'n hymddygiad yn well. Mae ymwybyddiaeth ofalgar yn sgil ac yn ffordd o fod. Gall dysgu’r sgiliau newydd hyn ac ymarfer gyda’n gilydd ein helpu i lywio cymhlethdodau bywyd. Gallwn reoli teimladau o bryder yn well; gwella ein lles; archwilio technegau newydd; cynyddu ein gonestrwydd; ymwybyddiaeth a dod yn fwy chwilfrydig. Gall deall ac ymarfer Hunandosturi ochr yn ochr ag Ymwybyddiaeth Ofalgar ein helpu i fod yn fwy caredig i ni ein hunain a bod yn llai beirniadol pan ddaw bywyd yn anodd, gan ein helpu i ddeall ein bod ni i gyd yn ddynol. Mae ymarfer tosturi yn ein helpu i fod yn iawn fel yr ydym ni.
Mae’n bwysig eich bod yn gallu mynychu pob un o’r 8 sesiwn a bod mewn lle cyfrinachol er mwyn cael y gorau o’r cwrs.
8 x sesiwn wythnosol
2 awr
Fel arfer yn cael ei gynnal ar Microsoft Teams.