Weithiau pan fyddwn ni wedi bod yn egnïol am beth amser, gall ymarfer corff ddechrau mynd yn ddiflas. Dyma ein hawgrymiadau gorau ar gyfer cadw pethau'n ddiddorol a pharhau i gymryd rhan mewn ymarfer corff yn y tymor hir:
- Rhowch gynnig ar bethau newydd: Naill ai rhowch gynnig ar fath newydd o ymarfer corff (link to A-Z?) neu newidiwch eich trefn ddyddiol bresennol. Er enghraifft, os ydych fel arfer yn cerdded yr un llwybr bob dydd, ystyriwch lwybrau newydd. Os ydych chi bob amser yn rhedeg ar ddydd Llun ac yn mynd i'r gampfa ar ddydd Mawrth, newidiwch y dyddiau. Gall newidiadau bach fel hyn wneud gwahaniaeth mawr!
- Heriwch eich hun: Ffordd wych o gadw ymarfer corff yn ddiddorol yw herio eich hun a gosod nodau/targedau. Os ydych chi'n rhedwr, efallai eich bod chi'n ymgynnig mewn ras sy'n bellter newydd i chi. Os ydych chi'n hoffi codi pwysau, efallai y gallwch chi ddysgu i godi pwysau trymach. Yn aml gall her neu nod fod yn gymhelliant mawr
- Gwnewch hi'n gystadleuaeth: Mae llawer ohonom yn ffynnu pan fyddwn yn cystadlu ag eraill. Efallai y gallech chi ddod o hyd i ffordd o gystadlu â ffrindiau neu aelodau o'r teulu sydd â lefel ffitrwydd tebyg i chi?
- Atgoffwch eich hun o'r manteision: Os ydych chi'n gwneud ymarfer corff yn rheolaidd, mae'n debyg eich bod chi'n sylwi ar lu o fanteision cadarnhaol i'ch lles corfforol ac emosiynol. Ar ddiwrnodau neu wythnosau pan nad ydych chi'n teimlo fel bod yn egnïol, atgoffwch eich hun o'r buddion hynny