Fel rydyn ni wedi nodi o'r blaen, mae gweithgarwch corfforol nid yn unig yn dda i'ch corff, mae hefyd yn dda i'ch meddwl. Fodd bynnag, weithiau mae'n anodd cychwyn arni. Mae rhwystrau cyffredin yn cynnwys profiadau negyddol blaenorol gydag ymarfer corff, diffyg amser neu gymhelliant, teimlo'n ansicr ble i ddechrau, ddim yn teimlo'n hyderus, neu gael swydd ddesg sy'n golygu ein bod yn eistedd am gyfnodau hir.
Dewch o hyd i ffyrdd y gallwch chi gynnwys gweithgarwch corfforol yn eich diwrnod ac adeiladu o'r fan honno.
Mae enghreifftiau o sut y gellir gwneud hyn yn cynnwys:
Rydych chi'n fwy tebygol o gadw at rywbeth os ydych chi'n ei fwynhau. Am syniadau am weithgareddau, ewch i'n rhestr A-Y o weithgareddau.
Bydd gosod targed dyddiol realistig a'i daro yn teimlo'n wych. Gall hyn naill ai fod yn gamau, pellter, munudau o ymarfer corff neu unrhyw beth arall. Mae yna nifer o apiau olrhain ar gael ond gall fod mor syml â rhestr wirio mewn darn o bapur.
Gall enghreifftiau o dargedau dyddiol gynnwys:
Mae gweithgareddau sy'n adeiladu cryfder fel cario bagiau siopa trwm, pilates ar-lein neu fideos ymarfer cryfder, yn helpu i gadw cyhyrau, cymalau ac esgyrn yn gryf. Yr argymhelliad yw eich bod yn anelu at wneud y rhain ddwywaith yr wythnos. Does dim angen i chi fod yn aelod o gampfa. Mae nifer o fideos ar-lein ar gael i'ch helpu chi. (Gweler isod am fanylion)
Weithiau mae'n haws cael eich cymell os ydych wedi dod yn egnïol gyda cwmni gyda chi (ffrindiau neu deulu). Weithiau gall dod ag elfen o gystadleuaeth a heriau iach ei gwneud yn fwy o hwyl. Felly bachwch ffrind, cydweithiwr neu aelod o'r teulu i ymuno â chi.
Mae hyn yn helpu gyda datblygu trefn sy'n ei gwneud hi'n haws i chi gadw at y cynllun. Gall ychydig o baratoi fod y gwahaniaeth rhwng gwneud ymarfer corff neu wneud esgusodion i beidio â gwneud. Dyma rai awgrymiadau ar gyfer datblygu arferion da:
Gosodwch nodau realistig a gwobrwywch eich hun. Tritiwch eich hun:
Does dim angen i chi fod yn hoff o chwaraeon i ddod yn egnïol yn gorfforol. Mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud i gefnogi a gwella eich lles corfforol.
Does dim angen i chi fod yn hoff o chwaraeon i ddod yn egnïol yn gorfforol. Mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud i gefnogi a gwella eich lles corfforol.. Dyma rai syniadau ar sut i ddechrau:
Tra byddwch chi allan:
|
Gartref:
|
Yn y Gwaith:
|
Ffrindiau a Theulu:
|
Cofiwch fod unrhyw beth yn well na ddim - hyd yn oed os nad ydych yn gallu gwneud 150 munud yr wythnos, dydy hyn ddim yn golygu na fyddwch yn gweld unrhyw fanteision o fod mor egnïol ag y gallwch fod.
Gwyliwch y fideos isod am syniadau ar sut i oresgyn rhai o'r rhwystrau i weithgarwch corfforol:
|
|
|
|
|
Pam rydyn ni'n rhoi'r gorau i'n cynlluniau ymarfer corff a sut allwn ni ddelio â hyn |
Merthyr Tudful
|
Rhondda Cynon Taf
|
Pen-y-bont ar Ogwr
|
Traciwch ac adeiladwch eich teithiau cerdded dyddiol - dechrau gyda 10 munud bob dydd! |
Ap rhedeg ar gyfer dechreuwyr llwyr - yn ogystal â graddedigion diweddar Soffa i 5K. |
Ap GIG Actif 10 - Lawrlwythwch ar y Storfa Ap | Ap GIG Actif 10 - Lawrlwythwch ar y Storfa Ap |
Ap GIG Soffa i 5K - Ei gael ar Google Play |
Ap GIG Soffa i 5K - Ei gael ar Google Play |
Mae yna lawer of fideos ar gael sydd wedi eu creu ar gyfer GIG: