Mae pob un o’n gweithdai lles bellach wedi’u recordio ymlaen llaw ac ar gael ar alw i’w gweld ar ein Sianel Lles CTM YouTube ar adeg ac mewn lle sy’n gyfleus i chi.
Gwasanaeth Lles CTM - YouTube
Mae’r pynciau’n cynnwys:
Hwyliau isel Yn archwilio sut y gallai hwyliau isel effeithio arnom ni a thechnegau y gallwch eu defnyddio i hybu eich hwyliau
Ymlacio ar ôl Gwaith: Yn archwilio offer y gallwn eu defnyddio i greu ffiniau iach rhwng cartref a gwaith.
Straen: Yn archwilio arwyddion cyffredin o straen a gorflinder, a thechnegau i helpu i ymateb yn wahanol
Cwsg: Yn archwilio pwysigrwydd cwsg, y broses o gysgu, rydych chi’n ei gael.
Adeiladu Gwytnwch: Yn archwilio’r cysyniad o wytnwch ac arferion sy’n cefnogi ein lles cyffredinol.
Gorbryder: Yn archwilio arwyddion cyffredin o orbryder a sut y gallwn ymateb yn wahanol i orbryder.