Neidio i'r prif gynnwy

Gwybod y ffeithiau

  • Caiff y brechlyn ei ddiweddaru’n flynyddol i gyd-fynd â mathau o ffliw sy’n cylchredeg.
  • Mae unrhyw sgil effeithiau fel arfer yn rhai ysgafn a thymor byr.
  • Gallwch chi gael eich brechu o hyd, hyd yn oed os oes gennych chi salwch ysgafn fel annwyd neu beswch.
  • Mae brechu yn ddiogel, yn gyflym, yn effeithiol, ac yn achub bywydau.
  • Gall y ffliw ledaenu'n gyflym - po fwyaf o staff sy'n cael eu brechu yn CTM, y lleiaf yw'r risg a'r uchaf yw'r amddiffyniad a fydd gennym yn ein cymuned. Mae'n weithred fach sy'n cael effaith fawr.
  • Mae'r brechlyn ffliw yn lleihau eich risg o fynd yn sâl yn sylweddol. Hyd yn oed os byddwch chi'n dal i gael y ffliw ar ôl cael y brechlyn, mae'n debygol o fod yn llawer ysgafnach ac yn para'n fyrrach.
  • Ni all y brechlyn ffliw roi'r ffliw i chi. Mae'n helpu i'ch amddiffyn a gall wneud y salwch yn llai difrifol os byddwch chi'n ei ddal, hyd yn oed os ydych chi'n iach fel arall!
  • Gall ffliw achosi dyddiau, neu hyd yn oed wythnosau, o salwch ac absenoldeb o'r gwaith. Mae hefyd yn rhoi'r rhai sy'n agored i niwed mewn perygl o salwch difrifol neu gymhlethdodau.

Gwneud penderfyniad gwybodus sy'n iawn i chi

Os oes gennych unrhyw bryderon am sgîl-effeithiau, cwestiynau cyffredinol am y ffliw neu frechiadau, mae ein Gwasanaeth Brechu ac Imiwneiddio yma i helpu. Gallwch gysylltu â'r tîm yn CTM_ImmunisationService@wales.nhs.uk neu ymweld â'n tudalen we brechu ffliw.

Dilynwch ni: