Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd Meddwl a Lles Rhieni

Gellir defnyddio'r adnoddau canlynol i gael mynediad at gymorth os ydych chi'n cael trafferth gyda'ch iechyd meddwl a'ch lles: 

Dull Solihull

Cyrsiau ar-lein am ddim i rieni a gofalwyr.  

SilverCloud - Therapi iechyd meddwl ar-lein am ddim

Gall pobl 16 oed neu hŷn gyda gorbryder, iselder neu straen ysgafn i gymedrol gofrestru i gymryd rhan mewn cwrs 12 wythnos o therapi gan SilverCloud, a hynny ar-lein drwy eu ffôn, tabled, gliniadur neu gyfrifiadur. 

Mind Cymru

Gwneud iechyd meddwl yn flaenoriaeth bob dydd.

Pum Ffordd at Les

Mae' Five Ways to Wellbeing yn nodi'r camau syml gall pob un ohonom eu cymryd i ofalu am ein hiechyd meddwl a'n lles. 

Adnoddau Rhwydweithiau Perinatal Cymru | Gweithrediaeth GIG Cymru

Taflenni cymorth a chyngor. 

Cynllun Lles Beichiogrwydd ac ar ôl geni | Tommy's

Mae'r Cynllun Lles yn eich helpu i ddechrau meddwl am sut rydych chi'n teimlo'n emosiynol a pha gefnogaeth y gallech fod ei hangen yn ystod eich beichiogrwydd ac ar ôl yr enedigaeth.

Canolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl (NCMH)

Adnoddau ar iechyd meddwl yn ystod beichiogrwydd, gan gynnwys defnyddio meddyginiaethau yn ystod beichiogrwydd a bwydo ar y fron. 

Cymdeithas Trawma Geni

Os ydych chi'n rhiant sydd wedi cael trawma gan enedigaeth, mae Cymdeithas Trawma Geni yma i helpu. 

Sefydliad PANDAS y DU

Mae'r tîm gwirfoddolwyr ymroddedig wrth law i gynnig cefnogaeth a chyngor, a gallant eich helpu i'ch cyfeirio at sefydliadau eraill, os oes angen.

Dilynwch ni: