Bob blwyddyn mae BIP Cwm Taf Morgannwg yn cynnal Cynhadledd Ymchwil a Datblygu i ddathlu’r ansawdd uchel a’r ymchwil gydweithredol sy’n cael ei wneud ar draws y BIP gan bob proffesiwn. Mae’r gynhadledd yn gyfle i rannu’r allbynnau ymchwil gydag ystod eang o gynrychiolwyr o’r GIG, y byd academaidd, Llywodraeth Cymru a diwydiant.
I grynhoi strwythur y diwrnod, dilynir cofrestru gan y sesiwn cyn cinio gydag araith gyweirnod a 5 cyflwyniad llafar. Yn dilyn cinio, mae 5 cyflwyniad llafar yn parhau trwy gydol y prynhawn. Mae cyfle hefyd i bawb sy'n mynychu adolygu cyflwyniadau poster a stondinau arddangos trwy gydol y dydd.
Mae galwad am grynodebau ar agor rhwng Mai a Medi, gyda'r gynhadledd yn cael ei chynnal ym mis Tachwedd.
Os hoffech gyflwyno crynodeb ar gyfer unrhyw Werthusiadau Ymchwil / Gwasanaeth rydych chi wedi cwblhau yn BIP CTM, cysylltwch â'r Adran Ymchwil a Datblygu ar 01443 443421.
Bydd Cynhadledd Ymchwil a Datblygu 2025 yn cael ei chynnal ar ddydd Mercher 26 Fedi 2025 yn Ystafell y Castell, Gwesty Vale, Hensol. Mae mwy o wybodaeth ar gael isod:
I gael blas o ansawdd uchel y gwaith a gyflwynwyd yn cynadleddau blaenorol, dilynwch y dolenni isod: