Neidio i'r prif gynnwy

Tim Nyrsio Cymunedol i Blant

Beth rydyn ni'n ei wneud

Mae gan y Tîm Nyrsio Cymunedol i Blant (CCNT) leoliadau ym Mharc Iechyd Prifysgol Keir Hardie ym Merthyr Tudful, gyda phrif ganolfan yn Ysbyty Cwm Rhondda yn Llwynypia ac Ysbyty Glanrhyd Pen-y-bont ar Ogwr.
Rydyn ni’n darparu amrywiaeth o ofal nyrsio generig a chefnogaeth ar gyfer nifer o grwpiau cleifion, gan gynnwys y rhai ag anghenion iechyd acíwt, afiechydon cronig ac mewn capasiti Gofal Iechyd Parhaus.
Ein nod yw hwyluso rhyddhau cynnar o'r ysbyty, atal unigolion yn cael eu derbyn i’r ysbyty eto a grymuso rhieni / gofalwyr, gyda chefnogaeth, i reoli anghenion iechyd eu plentyn.

I bwy mae'r gwasanaeth?

Mae’r tîm yn darparu gofal nyrsio a chymorth i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf i gyd, o enedigaeth i 16 oed a hyd at 19 oed i blant ag anghenion iechyd cymhleth.
Yn nodweddiadol, mae gan blant a phobl ifanc sy'n defnyddio'r gwasanaeth angen iechyd tymor byr neu hirdymor.  Mae rhai plant ag angen tymor byr yn cael eu cefnogi trwy ein gwasanaeth Gofal yn Nes at Gartref.

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Mae atgyfeiriadau yn cael eu derbyn gan weithwyr proffesiynol meddygol, nyrsio neu therapi

Beth i'w ddisgwyl

Yn dilyn atgyfeiriad, bydd nyrs gofrestredig o’r tîm CCN yn ymweld â’r plentyn a’r teulu gartref i gynnal asesiad, penderfynu pa ofal sydd ei angen, cynllunio a darparu’r gofal hwnnw nes bod rhyddhau neu drosglwyddo gofal yn briodol.

Cysylltwch â ni

Tîm Nyrsio Cymunedol i Blant
Merthyr a Chynon - 01685 351337
Pontypridd a'r Rhondda - 01443 443443 est 72692
Pen-y-bont ar Ogwr - 01656 753700

Dilynwch ni: