Neidio i'r prif gynnwy

Sut ydw i'n cysylltu â chi?

Ymholiadau Cyffredinol

Rydym yma i ateb unrhyw ymholiadau sydd gyda chi am y profion Patholeg (gan gynnwys cost prawf lle bo hynny'n berthnasol) a'r gwasanaethau sy’n cael eu darparu neu ymholiadau cyffredinol eraill. Am fanylion cyswllt gwasanaeth Patholeg penodol gweler isod. Fel arall, e-bostiwch CTT_Pathology_QTeam@wales.nhs.uk . Yna cewch eich cyfeirio at y gwasanaeth perthnasol, yn dibynnu ar natur eich ymholiad.

Adborth gan Gleifion

Fel claf hoffem glywed eich adborth ynghylch eich profiad o wasanaethau Patholeg, gan gynnwys pethau a aeth yn dda, i ddiolch i rywun sydd wedi eich helpu neu i ddweud wrthym sut y gallem fod wedi gwneud yn well. Os ydych am roi adborth cysylltwch â CTT_Pathology_QTeam@wales.nhs.uk .

Manylion cyswllt

Cysylltwch â'r adran patholeg berthnasol i gael rhagor o wybodaeth mewn perthynas â phrofion patholeg (ar gael dydd Llun—Gwener 9am-5pm)

Biocemeg glinigol:

Ysbyty’r Tywysog Siarl 01685 728278

Ysbyty Brenhinol Morgannwg 01443 443343

 

Trallwysiad Gwaed:

Ysbyty’r Tywysog Siarl 01685 728518

Ysbyty Brenhinol Morgannwg 01443 443343

 

Patholeg Cellog:

Ysbyty Brenhinol Morgannwg 01443 443343

 

Profion Pwynt Gofal:

Ysbyty’r Tywysog Siarl 01685 728459

Ysbyty Brenhinol Morgannwg 01443 443443 est. 6897

Haematoleg:

Ysbyty’r Tywysog Siarl 01685 728518

Ysbyty Brenhinol Morgannwg 01443 443343

 

Gwasanaethau Corffdy a Galar:

Ysbyty’r Tywysog Siarl 01685 728410
Ysbyty Brenhinol Morgannwg 01443 443463
Ysbyty Tywysoges Cymru 01656 752496

 

Fflebotomi:

Ysbyty’r Tywysog Siarl 01685 728168

Ysbyty Brenhinol Morgannwg 01443 443443 est. 74047

 

Microbioleg:

Ysbyty Brenhinol Morgannwg 01443 443343

Sylwch fod adran Batholeg Cwm Taf Morgannwg ar hyn o bryd yn gwasanaethu gwasanaethau Corffdy yn Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr yn unig. Ar gyfer ymholiadau yn ymwneud â gwasanaethau Patholeg eraill sy'n gweithredu o Ysbyty Tywysoges Cymru, bydd angen i gleifion gysylltu â Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Gellir dod o hyd i fanylion cyswllt Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe drwy fynd i https://bipba.gig.cymru/

Codi Pryder

Mae patholeg wedi ymrwymo i ddysgu a gwelliant parhaus, ac rydym bob amser yn ymdrechu i ddarparu'r gofal gorau posibl i'n cleifion. Fodd bynnag rydym yn cydnabod weithiau efallai na fydd eich profiad o wasanaethau Patholeg mor gadarnhaol ag y byddem wedi ei ddisgwyl, ac mae'n bwysig ein bod yn clywed am hyn, fel y gallwn ddysgu o hyn a gwella profiad i gleifion eraill.

 Os ydych yn teimlo'n anfodlon â'r gwasanaeth rydych wedi'i dderbyn, gallwch gofnodi cwyn neu bryder gan ddefnyddio gwefan Pryderon a Chwynion byrddau Iechyd https://bipctm.gig.cymru/cysylltwch-a-ni/pryderon-a-chwynion/

Fel arall gallwch roi adborth yn uniongyrchol i Batholeg gan ddefnyddio'r mecanweithiau cyswllt uchod, bydd aelod o staff Patholeg yn cynghori ynghylch a ddylid cofnodi'ch adborth yn fwy ffurfiol gan ddefnyddio gwefan y Bwrdd Iechyd.

Dilynwch ni: