Weithiau, bydd angen i feddyg neu fydwraig wneud toriad yn y man rhwng y wain a'r anws (perinëwm) yn ystod genedigaeth. Yr enw ar hyn yw episiotomi.
Mae episiotomi yn gwneud agoriad y wain ychydig yn fwy eang, gan ei gwneud yn bosibl i'r babi ddod drwyddi yn haws. Weithiau gall perinëwm menyw rwygo wrth i'w babi ddod allan. Mewn rhai genedigaethau, gall episiotomi helpu i atal rhwyg difrifol, neu gyflymu'r enedigaeth os oes angen geni'r babi yn gyflym.
Os yw eich meddyg neu fydwraig yn teimlo bod angen episiotomi arnoch chi pan fyddwch chi'n rhoi genedigaeth, byddan nhw'n trafod hyn gyda chi. Yn y Deyrnas Unedig, dydy episiotomïau ddim yn cael eu gwneud yn rheolaidd. Bydd hyd at 9 o bob 10 mam sy’n rhoi genedigaeth am y tro cyntaf trwy’r wain yn cael rhyw fath o rwyg, crafiad neu episiotomi.
Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn argymell y gellid cynnal episiotomi os:
yw’r babi mewn trallod ac mae angen ei eni'n gyflym,
mae angen genedigaeth gan ddefnyddio gefeiliau neu sugno (ventouse)
mae risg o rwyg i'r anws
Os oes gennych rwyg neu episiotomi, mae'n debyg y bydd angen pwythau arnoch i'w atgyweirio. Caiff pwythau sy’n toddi eu defnyddio, felly fydd dim angen i chi ddychwelyd i'r ysbyty i'w tynnu.
Efallai y bydd episiotomi yn cael ei argymell os bydd eich babi yn datblygu cyflwr o’r enw trallod y ffetws, lle mae cyfradd curiad calon y babi yn mynd yn gyflymach neu'n arafach cyn yr enedigaeth. Rheswm posibl arall dros episiotomi yw ehangu'ch gwain fel y gellir defnyddio offer, fel gefeiliau neu offer sugno (ventouse), i hwyluso’r enedigaeth.
Mae’n bosibl y bydd hyn yn angenrheidiol os:
ydych chi'n cael genedigaeth lle daw traed neu ben ôl y babi’n gyntaf yn lle’r pen
rydych chi wedi bod yn ceisio rhoi genedigaeth ers sawl awr ac rydych chi nawr yn flinedig ar ôl gwthio
mae gennych gyflwr iechyd difrifol, fel clefyd y galon a’r argymhelliad yw y dylai rhoi genedigaeth fod mor gyflym â phosibl i leihau risgiau iechyd pellach
Mae ymchwil yn dangos, mewn rhai genedigaethau, yn enwedig gyda genedigaethau â gefel, y gall episiotomi atal rhwygiadau sy'n effeithio ar gyhyr yr anws (rhwygiadau trydedd gradd).
Fel arfer, mae episiotomi yn syml. Caiff anesthetig lleol ei ddefnyddio fel bod y man o amgylch y wain yn ddideimlad, fel nad ydych chi'n teimlo unrhyw boen. Os ydych chi eisoes wedi cael epidwral, gellir cynyddu'r dos cyn gwneud y toriad.
Pryd bynnag y bo modd, bydd y meddyg neu'r fydwraig yn gwneud toriad bach croeslin o gefn y wain, tuag i lawr ac allan i un ochr. Caiff y toriad ei bwytho at ei gilydd gan ddefnyddio pwythau sy’n toddi ar ôl yr enedigaeth.
Fel arfer caiff toriadau episiotomi eu hatgyweirio o fewn awr i enedigaeth eich babi. Gall y toriad waedu cryn dipyn ar y dechrau, ond dylai hyn ddod i ben gyda phwysau a phwythau. Dylai pwythau wella o fewn 1 mis i'r enedigaeth. Siaradwch â'ch bydwraig neu obstetrydd ynglŷn â pha weithgareddau y dylech eu hosgoi yn ystod y cyfnod gwella.
Mae'n gyffredin teimlo rhywfaint o boen ar ôl episiotomi. Gall poenladdwyr fel parasetamol helpu i leddfu poen ac maen nhw’n ddiogel i'w defnyddio os ydych chi'n bwydo ar y fron. Bydd eich bydwraig neu'ch meddyg yn gallu eich cynghori os nad ydych chi'n siŵr pa boenladdwyr i'w cymryd.
I leddfu'r boen, ceisiwch roi pecyn iâ neu giwbiau iâ wedi'u lapio mewn tywel ar y toriad. Dylech osgoi roi iâ yn uniongyrchol ar eich croen gan y gallai hyn achosi niwed. Gall amlygu'r pwythau i awyr iach helpu'r broses gwella. Gall tynnu eich dillad isaf a gorwedd ar dywel ar eich gwely am tua 10 munud unwaith neu ddwywaith y dydd helpu. Mae'n anarferol i boen ar ôl episiotomi bara'n hirach na 2 i 3 wythnos. Os yw'r boen yn para'n hirach na hyn, siaradwch â meddyg, ymwelydd iechyd, neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall.
Cadwch y toriad a'r ardal o'i gwmpas yn lân i atal haint. Gall tywallt dŵr cynnes dros fan allanol eich gwain wrth i chi basio dŵr hefyd helpu i leddfu ar yr anghysur.
Pan fyddwch chi'n cael pŵ, efallai y byddwch chi'n ei chael hi'n ddefnyddiol rhoi pad glân ar y toriad a phwyso'n ysgafn. Gall hyn helpu i leddfu pwysau ar y toriad. Wrth sychu'ch pen ôl, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n sychu'n ysgafn o'r blaen i'r cefn. Bydd hyn yn helpu i atal bacteria yn eich anws rhag heintio'r toriad a'r croen o'i gwmpas. Os ydych chi'n teimlo bod cael pŵ yn arbennig o boenus, gall cymryd carthyddion (laxatives) helpu. Mae’r math hwn o feddyginiaeth fel arfer er mwyn trin rhwymedd ac mae'n gwneud eich pŵ yn fwy meddal ac yn haws i'w basio. Siaradwch â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol os ydych chi'n teimlo bod angen mwy o gymorth arnoch chi gyda hyn.
Does dim rheolau ynghylch pryd i ddechrau cael rhyw eto ar ôl i chi roi genedigaeth. Yn yr wythnosau ar ôl rhoi genedigaeth, mae llawer o fenywod yn teimlo'n ddolurus yn ogystal â blinedig, p'un a ydyn nhw wedi cael episiotomi ai peidio. Peidiwch â rhuthro. Os ydych chi wedi cael rhwyg neu episiotomi, mae poen yn ystod rhyw yn gyffredin iawn yn ystod yr ychydig fisoedd cyntaf. Peidiwch â defnyddio iraid sy'n seiliedig ar olew, fel Vaseline neu eli lleithio, gan y gall hyn lido'r wain a niweidio condomau latecs neu ddiafframau. Gallwch chi feichiogi yn syth ar ôl rhoi genedigaeth i'ch babi, hyd yn oed os ydych chi'n bwydo ar y fron ac nad yw eich mislif wedi dechrau eto.
Defnyddiwch ryw fath o atal cenhedlu bob tro y byddwch chi'n cael rhyw ar ôl rhoi genedigaeth, gan gynnwys y tro cyntaf (oni bai eich bod chi eisiau beichiogi eto). Fel arfer, byddwch chi'n cael cyfle i drafod eich opsiynau atal cenhedlu cyn i chi adael yr ysbyty (os ydych chi wedi cael eich babi yn yr ysbyty) ac yn ystod yr archwiliad ôl-enedigol. Gallwch hefyd siarad â meddyg teulu, bydwraig neu ymwelydd iechyd, neu fynd i glinig atal cenhedlu ar unrhyw adeg.
Chwiliwch am unrhyw arwyddion bod y toriad neu'r croen o'i gwmpas wedi'i heintio, fel:
croen coch, chwyddedig
crawn neu hylif o'r toriad
poen barhaus
arogl anarferol
Dywedwch wrth feddyg teulu, bydwraig neu ymwelydd iechyd cyn gynted â phosibl am unrhyw arwyddion posibl o haint fel y gallan nhw sicrhau eich bod yn cael y driniaeth y gallai fod ei hangen arnoch.
Gall cryfhau'r cyhyrau o amgylch y wain a'r anws trwy wneud ymarferion llawr y pelfis helpu’r fan i wella, a bydd yn lleihau'r pwysau ar y toriad a'r croen o'i gwmpas. Mae ymarferion llawr y pelfis yn cynnwys gwasgu'r cyhyrau o amgylch eich gwain a'ch anws fel petaech chi’n eich atal eich hun rhag mynd i'r toiled neu basio gwynt. Gall bydwraig esbonio sut i wneud yr ymarferion.
I rai menywod, mae gormod o groen wedi’i greithio neu groen wedi'i godi neu sy’n cosi yn ffurfio o amgylch y man lle digwyddodd y rhwyg neu lle y gwnaed episiotomi. Os yw eich croen wedi’i greithio yn achosi problemau i chi, rhowch wybod i’ch meddyg.
Gall bydwraig eich helpu i osgoi rhwyg yn ystod genedigaeth pan fydd pen y babi yn dod yn weladwy. Efallai y bydd y fydwraig yn gofyn i chi roi'r gorau i wthio ac i anadlu neu bwfio’n ysgafn am gwpl o anadliadau byr cyflym, gan chwythu allan trwy'ch ceg. Mae hyn er mwyn i ben eich babi ddod allan yn araf ac yn ysgafn, gan roi amser i groen a chyhyrau'r perinëwm ymestyn heb rwygo.
Fel arfer, mae croen y perinëwm yn ymestyn yn dda, ond gall rwygo, yn enwedig mewn menywod sy'n rhoi genedigaeth am y tro cyntaf. Gall tylino'r perinëwm yn ystod wythnosau olaf beichiogrwydd leihau'r siawns o gael episiotomi yn ystod genedigaeth. Mae math ac amlder tylino yn amrywio ar draws astudiaethau ymchwil. Mae'r rhan fwyaf yn cynnwys rhoi 1 neu 2 fys i mewn i'r wain a rhoi pwysau am i lawr neu mewn symudiad ysgubo tuag at y perinëwm.