Bydd y rhan fwyaf o rieni newydd yn teimlo rhywfaint o orbryder yn ystod yr wythnosau cyntaf o fod yn deulu, ond os bydd y gorbryder hwnnw’n gyson ac os bydd yn effeithio ar fywyd bob dydd, mae’n bosib y bydd angen rhagor o gymorth ar eich partner.
Gallwch chi helpu drwy wneud y canlynol:
- Annog eich partner i siarad â gweithiwr iechyd proffesiynol
- Siarad â'ch gilydd, rhoi sicrwydd i’ch partner ac awgrymu ei fod yn ysgrifennu unrhyw bryderon fel bod modd eu rhannu â gweithiwr iechyd proffesiynol
- Helpu o gwmpas y tŷ
- Gosod terfynau gyda ffrindiau a theulu, fel na fydd ymwelwyr yn gorlethu eich partner
- Help i olchi dillad
- Mynd gyda’ch partner i apwyntiadau gyda’r meddyg, pan fydd hynny’n bosib
- Darganfod mwy am iechyd meddwl yn ystod y cyfnod ôl-enedigol
- Eistedd gyda'ch gilydd, heb fod unrhyw beth yn tynnu eich sylw, fel eich ffôn, y teledu ac ati, a rhoi gwybod i’ch partner eich bod chi gerllaw
- Gwneud yn siŵr eich bod chi’n edrych ar eich partner bob amser wrth siarad â'ch gilydd
- Annog eich partner i orffwys
- Holi ynglŷn â beth gallwch chi ei wneud i helpu
- Gwrando ar eich partner
- Bod yn amyneddgar