Beth rydyn ni’n ei wneud
Prif swyddogaeth y ward yw darparu gofal, triniaeth ac asesiad mewnol i oedolion sy'n profi ystod eang o broblemau iechyd meddwl a'r nod yw eu cefnogi trwy eu taith adferiad.
All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?
Mae'r gwasanaeth yn addas i oedolion rhwng 18 a 65 oed, dynion a menywod.
Ceir mynediad at y gwasanaeth trwy ein Tîm Asesu Atgyfeiriadau/Cyswllt a fydd yn sicrhau bod dewisiadau eraill yn lle derbyn yn cael eu harchwilio yn ystod yr asesiad.
Beth i'w ddisgwyl
Bydd cleifion yn cael asesiad trylwyr o'u hiechyd meddwl gan dîm amlddisgyblaethol ymroddedig. Bydd asesiadau yn llywio opsiynau gofal a thriniaeth, sy'n gweddu orau i anghenion unigol.
Bydd cleifion yn cael eu cefnogi i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau therapiwtig ac yn cael gwybodaeth am wasanaethau cymunedol i gefnogi adferiad.
Cysylltwch â Ni
Tîm Llwybr Atgyfeirio
Ward 14,
Clinig Coety,
Ysbyty Tywysoges Cymru,
Pen-y-bont ar Ogwr,
CF31 1RQ
01656 752267