Beth rydyn ni’n ei wneud
Rydyn ni’n cynnig gofal arbenigol, cefnogol ac unigol i gleifion sy’n ymddwyn yn aflonydd oherwydd pwl acíwt o salwch meddwl, yn enwedig os ydyn nhw’n creu perygl i’w hunain neu i bobl eraill. Byddan nhw’n cael eu derbyn i amgylchedd diogel ac arbenigol ac rydyn ni’n parchu eu preifatrwydd a’u trin ag urddas hefyd.
All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?
Mae’r gwasanaeth hwn ar gyfer oedolion rhwng 18 a 65 oed.
Gall Seiciatryddion Ymgynghorol neu Nyrs Iechyd Meddwl o naill ai Sefydliad Cosbi neu Ward Acíwt Oedolion wneud cyfeiriadau i’r Uned Gofal Dwys Seiciatrig yn Ysbyty Tywysoges Cymru.
Os oes angen i glaf gael ei dderbyn i’r Uned Gofal Dwys Seiciatrig (PICU), byddai angen i staff PICU gwblhau atgyfeiriad ac yna bydd asesiad yn cael ei gynnal.
Beth i'w ddisgwyl
Mae cleifion a dderbynnir i PICU yn cael lefel uchel o gefnogaeth gan dîm amlddisgyblaethol i'w cynorthwyo i wella. Mae cleifion yn cael adolygiadau rheolaidd gyda'r tîm meddygol ac mae PICU yn sicrhau amgylchedd diogel i ofalu am unigolion sy'n profi trallod ac argyfwng ar hyn o bryd. Mae therapi galwedigaethol, seicotherapi celf, staff meddygol a thîm nyrsio 24 awr ar gael i gleifion. Mae gan PICU gymhareb uchel o staff i glaf i alluogi'r tîm i ddarparu'r gofal dwys sydd ei angen i sicrhau bod anghenion cleifion yn cael eu diwallu mewn modd amserol. Mae'r gymhareb uchel hon o staff i glaf hefyd yn gwneud yn bosibl i staff rheoli cleifion sy'n peri risg iddyn nhw eu hunain neu eraill yn effeithiol. Mae'r Uned yn rhoi dewis i gleifion ac yn caniatáu mewnbwn i'w cynlluniau gofal ac adferiad. Unwaith y bydd cleifion ar PICU yn gwella yn eu hadferiad, bydd cyfleoedd ar gyfer amgylchedd cam-i-lawr llai cyfyngol, er mwyn galluogi'r broses adfer i barhau.
Cysylltwch â Ni
Uned Gofal Dwys Seiciatrig ( PICU) – Tywysoges Cymru
Clinig Coety,
Ysbyty Tywysoges Cymru,
Pen-y-bont ar Ogwr,
CF31 1RQ.
01656 752267