Neidio i'r prif gynnwy

Y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol i Oedolion

Beth rydyn ni’n ei wneud

Mae'r Timau Iechyd Meddwl Cymunedol i Oedolion (TIMC) yn darparu ystod o wasanaethau i oedolion (18 – 65 oed) sydd â phroblemau iechyd meddwl cymedrol i ddifrifol, ansefydlog.

Mae’r timau’n cynnig cymorth i bobl gydag amrywiaeth o broblemau iechyd meddwl. Gallai hyn gynnwys seicosis, anhwylder personoliaeth deubegwn a gorbryder ac iselder difrifol.

Mae Timau Iechyd Meddwl Cymunedol (TIMC) yn gweithio mewn partneriaeth ag Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghyd â darparwyr eraill yn y sector gwirfoddol.

Beth rydyn ni’n ei wneud

  • Hyrwyddo iechyd ac adferiad

  • Darparu ymateb lleol i bobl leol

  • Darparu gofal unigol yn seiliedig ar anghenion person

  • Cynnig amrywiaeth o wasanaethau gan gynnwys asesu, diagnosis a thriniaeth

  • Defnyddio amrywiaeth o therapïau, technegau ac ymyriadau cymdeithasol

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Mae’r gwasanaeth ar gyfer oedolion rhwng 18 a 65 oed. Fel arfer daw atgyfeiriadau i’r TIMC gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol mewn gwasanaethau iechyd meddwl eraill gan gynnwys, Gwasanaethau Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol, Timau Cyffuriau ac Alcohol Cymunedol, Timau Datrys Argyfwng a Thriniaeth Gartref.

Beth i'w ddisgwyl

Os ydych chi, neu’r person rydych chi’n gofalu amdano, yn cael eich atgyfeirio at ein gwasanaeth, byddwn yn cefnogi eich taith drwy wasanaethau iechyd meddwl. Bydd ein tîm yn cynnal asesiad ac yn gweithio gyda chi i ddatblygu cynllun gofal unigol, cynllun rheoli risg a chynllun argyfwng.

Mae Iechyd Meddwl Cymunedol yn wasanaeth sy’n rhedeg o ddydd Llun i ddydd Gwener 9 am – 5 pm

Cysylltwch â Ni

Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol Gogledd Pen-y-bont ar Ogwr
01656 754278
Ysbyty Maesteg
Heol Castell Nedd
Maesteg
CF34 9PW

Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol De Pen-y-bont ar Ogwr
01656 763000
71 Heol y Chwarel
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 1JS

Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol Taf Elái
01443 443844
Parc Iechyd Dewi Sant
Heol Albert
Pontypridd
CF37 1LB

Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol Cwm Rhondda
01443 424350

Adeiladau’r Cyngor
Pentre
RhCT
CF41 7XW

Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol Merthyr Tudful
01685 351100
Parc Iechyd Keir Hardie
Ffordd Aberdar
Merthyr Tudful
CF48 1BZ

Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol Cynon
01443 715100
Ysbyty Cwm Cynon

Heol Newydd
Aberpennar
Rhondda Cynon Taf
CF45 4BZ.

 

Dilynwch ni: