Os ydych yn amau bod gan eich plentyn orsensitifrwydd bwyd (pan fydd y corff yn ymateb i rai bwydydd), gall hyn effeithio ar sut maen nhw’n bwyta. Mae llawer o blant sy'n cael rhwymedd, yn teimlo’n chwyddedig, yn cael adlif, neu bydredd dannedd hefyd yn ei chael hi'n anodd bwyta. Gall trin y problemau hyn gael effaith fawr ar sut maen nhw’n bwyta. Os oes gennych bryderon am y materion hyn, siaradwch â'ch Meddyg Teulu neu â Phaediatregydd.
Weithiau, gall pobl sydd â deiet cyfyngedig fwyta gormod o fwydydd sy'n cynnwys braster a siwgr, mae'n bwysig mai dim ond ychydig o’r bwydydd hyn y byddwch chi’n eu cynnig er mwyn lleihau'r risg o fod dros bwysau