Mae maeth da yn bwysig gan fod deiet yn effeithio ar iechyd yn ogystal ag ar yr hwyliau, cwsg, a'r gallu i ddysgu.
Wedi i chi nodi pa weadau / lliwiau y mae eich plentyn yn tueddu i’w hoffi, gallech arbrofi pan fyddwch yn cynnig ffrwythau a llysiau e.e. rhai ffres (meddal), rhai wedi'u rhewi (caled ac oer), sych (caled a chynnes), smwddi (hylif), wedi'u rhewi'n lolipop iâ (oer ac â gwead mwy cyson). Gallech hefyd ychwanegu lliw bwyd er mwyn newid y lliw yn lliw y mae eich plentyn yn ei hoffi.
Gall cynnig bara, llaeth, grawnfwyd, sgwash neu sudd sydd wedi’u cyfoethogi wella cynnwys maethol y deiet.
Gallech gyfoethogi'r deiet hefyd trwy ychwanegu cnau wedi’u malu’n fân, burum maethol, neu lysiau wedi'u blendio i sawsiau sawrus. Gallech ferwi pasta / reis mewn llaeth neu laeth amgen.
Mae cysylltiad rhwng deiet cyfyngedig iawn â lefelau isel o rai maetholion (fitaminau B3, B6, C, calsiwm, haearn a sinc).
Efallai y byddai o fudd i'ch plentyn gymryd atchwanegiad amlfitamin a mwynau. Mae'r rhain ar gael fel hylifau neu i’w cnoi. Weithiau gellir ychwanegu'r paratoadau hylif at ddiodydd y mae eich plentyn yn eu derbyn. Gallai fod yn ddefnyddiol sicrhau bod yr atchwanegiad yn cynnwys haearn.
Dylech gyfyngu ar fwydydd sydd â llawer o fraster neu siwgr er mwyn lleihau'r risg o ordewdra ac osgoi’r llenwi’r plentyn â bwydydd sydd ddim yn faethlon.