Mae chwarae blêr yn rhoi ffordd hwyliog i'r plentyn deimlo gweadau newydd. Gall dod i gysylltiad ag amrywiaeth eang o weadau eu gwneud yn llai gwrthwynebus i wahanol deimladau.
Mae angen i blant ddysgu am fwydydd newydd pan nad oes unrhyw fygythiad. Mae arnyn nhw angen gweld neu deimlo bwyd sawl gwaith cyn y byddan nhw'n ystyried ei flasu neu ei fwyta. Mae prydau bwyd yn aml yn gysylltiedig â disgwyliadau, ac mae llawer o blant yn defnyddio llawer o’u hegni yn amddiffyn eu hunain rhag profiadau synhwyraidd newydd sy'n teimlo'n beryglus iddyn nhw. Cysur a diogelwch sydd bwysicaf yn ystod prydau bwyd. Pan fydd plant yn teimlo'n ddiogel ac yn gyfforddus, maen nhw'n fwy parod i fentro ac i ymuno mewn profiadau newydd
Drwy ganiatáu i'ch plentyn chwarae gyda bwyd rhwng prydau bwyd, byddan nhw’n dod yn fwy hyderus o amgylch bwyd. Byddan nhw’n fwy tebygol o fod yn barod i brofi bwyd mewn ffyrdd eraill. Fel oedolion rhaid i ni ei gwneud hi'n hwyl i'r plentyn a pheidio â cheisio perswadio'r plentyn i gymryd brathiad, a thrwy hynny ganiatáu i'r plentyn ddod yn gyfarwydd â bwyd trwy chwarae.
Efallai y bydd angen i chi chwarae gyda'r un bwydydd dro ar ôl tro, gan mai trwy ddod i gysylltiad â nhw drosodd a throsodd y daw’r plentyn yn fwy hyderus ac i fwynhau chwarae gyda nhw. Os na allan nhw oddef gwead neu fwyd penodol, peidiwch â’i gynnig am ychydig ac yna rhowch gynnig arno eto yn nes ymlaen
Gadewch iddyn nhw chwarae gyda bwyd mewn gwahanol ffyrdd, er enghraifft:
|
|
Bydd gwell cynnydd fel arfer os yw’r bwyd wedi cael ei gynnwys mewn chwarae blêr, ar adegau cwbl ar wahân i brydau bwyd. Peidiwch ag anghofio ei wneud yn hwyl!