Pan fyddwn yn prosesu’r wybodaeth synhwyraidd yn gywir, gallwn wneud ein gweithgareddau dyddiol yn effeithlon heb feddwl llawer.
Rydyn ni’n defnyddio'r wybodaeth hon mewn sawl ffordd – i ddeall ein corff, i ddeall yr amgylchedd, ac i gysylltu â’r byd.
Sut mae'r synhwyrau'n effeithio ar bwyta Golwg
Mae ein golwg yn ein helpu i ganolbwyntio ar yr hyn sydd angen i ni ei wneud ac i ymateb yn briodol. Mae'n ein helpu i ganfod ac i ddilyn gwrthrychau.
Sut all ein golwg effeithio ar sut rydyn ni’n bwyta:
Clyw
Mae ein clyw yn ein helpu i adnabod/deall/ymateb i'r hyn rydyn ni’n ei weld. Mae hyn yn chwarae rhan bwysig yn y ffordd rydyn ni’n dehongli ein hamgylchedd a’n cysylltiadau â phobl eraill.
Sut all ein clyw effeithio ar fwyta:
*Mae’n bwysig nodi y dylech ofyn am brawf clyw os oes unrhyw bryderon yn y maes hwn, er mwyn diystyru unrhyw anawsterau meddygol eraill.
Arogl a blas
Mae'r ddau synnwyr yma gennym er mwyn canfod a yw blas/arogl yn ddiogel ynteu'n niweidiol i'r corff. Mae’r ddau yn cael effaith enfawr ar ein dewisiadau bwyd ac ar ein mwynhad o fwyd. Wrth arogli, rydyn ni’n cysylltu â’r rhan o'n hymennydd sy'n gysylltiedig â'n hymddygiad, ein hwyliau a'n hatgofion.
Sut all arogl/blas effeithio ar fwyta:
Cyffwrdd
Cawn y rhan fwyaf o'n teimladau sylfaenol trwy gyffyrddiad e.e. pwysau, poen, tymheredd. Mae'r derbynyddion sydd yn ein croen a'n ceg yn casglu gwybodaeth synhwyraidd ac yn ei throsglwyddo i'r ymennydd. Mae’r gallu i gyffwrdd yn ein hamddiffyn gan ei fod fel larwm sy’n ein rhybuddio rhag perygl. Mae hefyd yn rhoi gwybodaeth i ni am wrthrychau ac am ein amgylchedd, ac mae’n cefnogi datblygiad ein sgiliau echddygol manwl.
Sut all cyffwrdd effeithio ar fwyta:
Ymwybyddiaeth o'r corff
Mae ein hymwybyddiaeth o'r corff yn ein helpu i wybod ble mae rhannau o'n corff heb i ni orfod edrych arnyn nhw. Mae'n ein helpu i wybod ble mae rhannau ein corff ac i’w symud yn iawn ac yn briodol. Mae'n helpu gyda chynllunio a chydlynu ein symudiadau.
Sut all ymwybyddiaeth o'n corff effeithio ar fwyta:
Cydbwysedd
Mae ein cydbwysedd yn ein helpu i deimlo symudiad a chydbwysedd. Mae'n ein helpu i aros yn unionsyth ac i symud ein pen yn ôl yr angen.
Sut all ein cydbwysedd effeithio ar fwyta:
Synnwyr mewnol y corff
Dyma'r synnwyr sy'n ein galluogi i sylwi ar bethau mewnol ein corff e.e. bod yn llwglyd, syched, yr angen i fynd i'r toiled, poen, tymheredd.
Sut all ein synhwyrau mewnol effeithio ar fwyta:
Awgrymiadau o ran gweithgareddau bwyta
Gallwch ddefnyddio'r gweithgareddau wrth chwarae gyda'ch plentyn drwy gydol y dydd. Byddan nhw’n helpu eich plentyn i ddatblygu'r sgiliau corfforol sydd eu hangen wrth fwyta yn ogystal â pharatoi eu system synhwyraidd ar gyfer bwyta.