Neidio i'r prif gynnwy

3. Pwysigrwydd eistedd yn dda

  • Gall traed yn hongian, dynnu sylw a gwneud i blant deimlo’n anniogel. Rhowch focs/step o dan eu traed i'w helpu i deimlo'n ddiogel ac i eistedd yn gefnsyth.
  • Edrychwch i weld sut mae'r plentyn yn eistedd ar y gadair. Os ydyn nhw'n eistedd fel y plentyn yn y llun isod, efallai y bydden nhw'n elwa o gael rhywbeth i gynnal eu hochrau. Os felly, defnyddiwch gadair gyda breichiau neu rhowch nhw i eistedd wrth ymyl wal.

  • Mae'n ddefnyddiol cadw plentyn yn y gadair uchel cyhyd â’i bod yn ddiogel i wneud hynny. Mae cadeiriau uchel yn cefnogi plant wrth fwyta. Mae plant yn aml yn teimlo'n fwy diogel pan fydd rhywbeth i’w cynnal.
  • Mae'r llun uchod yn dangos ffordd dda o gyflwyno plant i fwyta prydau fel teulu. Os na allan nhw oddef bod mewn cadair uchel, ceisiwch gael picnic ar y llawr gyda'r teulu gan symud i ddefnyddio cadair neu gadair uchel wedyn.
Dilynwch ni: