Neidio i'r prif gynnwy

2. Cyflwyno bwydydd newydd i'ch plentyn

  • Anogwch eich plentyn i fod yn yr un ystafell â’r bwyd newydd.
  • Anogwch nhw i edrych ar y bwyd newydd, a dechreuwch sgwrs neu weithgaredd sy'n cynnwys y bwyd newydd os gallwch chi.
  • Rhowch ychydig bach (maint ewin bys neu lai) ar y plât dysgu yn ymyl eu plât. Gall hyn fod ar ben arall y bwrdd. Os ydyn nhw'n caniatáu hyn heb gynhyrfu, pan welan nhw’r bwyd yma eto, gallwch ddod ag e ychydig yn nes atyn nhw, ond yn raddol yn unig (dylai hwn fod yn fwyd y mae gweddill y teulu'n ei fwyta).
  • Anogwch eich plentyn i arogli'r bwyd newydd. Aroglwch y bwyd hefyd – efallai y bydd eich plentyn yn eich dynwared.
  • Anogwch eich plentyn i gyffwrdd â'r bwyd newydd â'u bysedd.
  • Anogwch eich plentyn i ddod â'r bwyd at eu hwyneb, yna at eu gwefusau ('cusanu'r bwyd') ac yna i’w gyffwrdd â’u tafod. Gwnewch hyn ar gyflymder sy'n addas i'ch plentyn – gall rhai plant wneud pob cam o fewn un pryd bwyd, a bydd eraill yn cymryd sawl tro i wneud hyn.
  • Anogwch eich plentyn i lyfu’r bwyd newydd yna ei roi yn eu ceg (gallan nhw dynnu’r bwyd allan a’i roi mewn hances bapur heb ei gnoi a’i lyncu – mae’r cam hwn yn gadael iddyn nhw flasu a theimlo’r bwyd yn y geg).
  • Anogwch eich plentyn i frathu a chnoi (tua 5–10 gwaith) ac yna llyncu ychydig bach iawn o’r bwyd.
  • Yn olaf – cynyddwch faint o fwyd sy'n cael ei fwyta'n raddol. Yna bydd y bwyd yn dod yn un o’r bwydydd y mae eich plentyn yn ei dderbyn. Yna dechreuwch y broses o'r dechrau gyda bwyd newydd arall. Cofiwch y gall gymryd sawl mis i gyflwyno bwyd newydd felly peidiwch â rhoi'r gorau iddi.

Adnabod patrymau bwyd
Rhestrwch y bwydydd y mae eich plentyn yn hoffi eu bwyta – disgrifiwch y gweadau, y lliwiau, a'r blasau:

  • Caled, meddal, sych, gwlyb
  • Gwyn, melyn, neu liw penodol e.e. oren
  • Blasau melys, sawrus, cryf neu ddi-flas
  • Ydyn nhw'n bwyta bwydydd â gwahanol weadau ond ar wahân? E.e. grawnfwyd sych gyda diod o laeth (ond heb eu cymysgu gyda'i gilydd)

Defnyddiwch y rhestr hon weld pa flasau, gweadau, a lliwiau sydd well ganddyn nhw. Ceisiwch feddwl am fwydydd eraill sy'n cyd-fynd â'r disgrifiad hwn (e.e. os yw’n well ganddyn nhw fwydydd gwyn, meddal, heb flas cryf, cynigiwch fwydydd tebyg, e.e. reis, blodfresych, sbageti, cyw iâr).

Cyflwyno amrywiaeth y diet

  • Gallai stori gymdeithasol helpu plentyn i ddeall pam rydyn ni'n bwyta a beth yw diben bwyd. Gallwch gynnwys eu hoff gymeriadau / diddordebau.
  • Cynhyrchwch fwydlen glir o fwydydd dyddiol a/neu wythnosol. Rhowch yr amser wrth ymyl y prydau bwyd. Gall pethau gweledol helpu plentyn i fynegi ac i adnabod eu hanghenion, yr hyn y maen nhw’n ei hoffi, a phryd maen nhw’n teimlo’n llwglyd.
  • Gwnewch siart cynnydd bwyd. Rhowch luniau o fwydydd derbyniol ar y siart ynghyd â lluniau o fwydydd maen nhw eisiau eu blasu, ac yna gallwch chi neu'ch plentyn gofnodi eu cynnydd ar y siart.
  • Bydd rhai plant yn fwy tebygol o dderbyn bwyd sy’n cael eu cyflwyno mewn ffordd gyson. Enghraifft o hyn fyddai ffrwythau a llysiau o dun neu rai wedi'u torri sydd bob amser yr un siâp heb unrhyw ddarnau tywyllach ar y croen. Mae bwydydd wedi'u prosesu yr un fath bob tro, maen nhw wedi'u cynllunio i edrych ac i flasu'r un fath bob tro rydych chi'n eu bwyta. Gall y bwydydd hyn helpu plant sydd â phroblemau synhwyraidd.
  • Os yw'r plentyn wedi gallu ymgysylltu â bwyd newydd, gellir rhoi cymhelliant fel danteithion e.e. os ydyn nhw'n helpu gyda'r coginio, neu'n cyffwrdd â'r bwyd newydd â blaen eu bys. Efallai bod ganddyn nhw 5 munud yn hirach i chwarae gyda'u cymhelliant.
  • Mae angen i blant ddysgu sut i gnoi hefyd, felly gwnewch iddyn nhw edrych arnoch chi pan fyddwch chi'n rhoi rhywbeth yn eich ceg, er mwyn iddyn nhw weld sut mae’r ên a’r geg yn symud.
  • Pan fydd eich plentyn yn rhoi cynnig ar rywbeth oddi ar blât person y maen nhw’n ymddiried ynddyn nhw, hyd yn oed os yw'r un bwyd ar eu plât nhw’n barod, rydyn ni’n galw hyn yn fod yn ‘flaswr y brenin’. Ceisiwch gymryd ychydig oddi ar eu plât nhw a'i fwyta, er mwyn iddyn nhw weld bod eu plât nhw’n ddiogel hefyd.

Ni ddylech roi unrhyw bwyslais ar flasu, ei oddef yw’r unig beth sy’n bwysig.

Cyflwyno bwydydd mewn cadwyn

  • Dyma broses o gyflwyno bwydydd newydd sy'n debyg o ran gwead, blas neu dymheredd i'r bwyd y mae’r plentyn yn ei dderbyn yn barod. Isod mae rhai enghreifftiau o sut gallech chi roi cynnig ar hyn:
  • Os yw’ch plentyn yn bwyta bara, ceisiwch gynnig torth lai (o’r un becws), tafell denau neu drwchus (o’r un becws), yna symudwch ymlaen at fara heb ei sleisio, yna bara pitta, yna ciabatta, yna crwst pitsa, a baguette.
  • Os ydyn nhw’n bwyta tost, plygwch y tost yn ei hanner fel brechdan, rhowch hwn ar blât i weld a fyddan nhw'n ei oddef. Gadewch y dafell arall o dost yn fflat, efallai y byddan nhw’n dynwared beth wnaethoch chi gyda honno, neu efallai y byddan nhw'n gei adael ar y plât ac yn bwyta'r darn fflat yn unig. Mae’n bwysig gwneud hyn bob dydd gan y bydd yn helpu i ddod i arfer ac i addasu i newid. Yna ceisiwch wneud y tost yn oleuach ei liw, pan fyddan nhw’n derbyn hyn. Yn raddol gallwch wneud y tost yn oleuach nes na fydd wedi’i dostio o gwbl.
  • Os ydyn nhw’n bwyta hufen chwistrell, ceisiwch gynnig hufen sy’n llifo, yna iogwrt, yna cwstard, yna rhowch gynnig ar bwdin reis.
  • Os yw’ch plentyn yn bwyta creision, rhowch gynnig ar greision llysiau, yna creision llysiau wedi'u coginio yn y popty, yna llysiau wedi'u rhostio
Dilynwch ni: