Peidiwch â chynhyrfu gan fod plant yn tueddu i sylwi ar emosiynau eu rhieni. Peidiwch â gorfodi'ch plentyn i fwyta, gall hyn waethygu’r sefyllfa.
Stopiwch ofyn iddyn nhw flasu bwydydd newydd. Byddan nhw'n rhoi cynnig ar wneud pan fyddan nhw'n teimlo'n hyderus ac yn ddiogel.
Anogwch eich plentyn i eistedd gyda chi i fwyta. Dangoswch iddyn nhw eich bod chi'n dawel ac yn mwynhau’r amser hwn. Hyd yn oed os mai ond am gyfnod byr iawn y byddan nhw’n eistedd gyda chi, mae hynny'n gynnydd gwych.
Cyfyngwch amseroedd eich prydau bwyd i 30 munud.
Arbrofwch gyda newid yr amgylchedd, gwnewch hi’n dawel drwy ddiffodd y teledu, neu gallech roi tro ar gael ychydig o sŵn cefndirol.
Sefydlwch drefn reolaidd ar gyfer prydau bwyd a byrbrydau. Ceisiwch roi bwyd yr un pryd bob dydd.
Edrychwch ar sut mae gweddill y teulu'n bwyta. Ydyn nhw’n gwneud llanast wrth fwyta? Os felly, beth am symud eich plentyn i eistedd o olwg y sawl sy’n gwneud llanast wrth fwyta? Os yw aelodau eraill o'r teulu yn tueddu i fod yn swnllyd wrth fwyta, neu os ydyn nhw’n bwyta â'u cegau ar agor, gall hyn wneud i rai plant golli eu hawch am fwyd. Felly, rhowch gynnig ar newid ble maen nhw’n eistedd wrth y bwrdd.
Ceisiwch, os gallwch chi, beidio ag ailadrodd prydau bwyd am gyfnod o 3 diwrnod. Gallai caniatáu i'r plentyn fwyta'r un bwyd ddydd ar ôl dydd achosi iddyn nhw roi’r gorau i’w fwyta, a byddwch yn colli’r dewis hwnnw o'u deiet wedyn. Ond cofiwch, os byddan nhw’n rhoi’r gorau i fwyta rhywbeth, gallwch chi roi cynnig ar ei ailgyflwyno ymhen rhyw fis. Mae’n gallu bod yn anodd gwneud hyn gyda phlentyn sydd â deiet cyfyngedig, ond dechreuwch gyda bob yn ail ddiwrnod.
Mae modelu ymddygiad yn bwysig iawn, gwnewch ystumiau a synau cadarnhaol wrth fwyta gyda'ch gilydd. Peidiwch â cheisio bwyta rhywbeth newydd o'u blaenau, rhag ofn y byddwch chi ddim yn ei hoffi, gan y bydd eich wyneb yn ei ddangos.
Ceisiwch gynnig bwyd o fowlen yn hytrach nag o'r pecyn. Gall hyn helpu os yw’r label yn newid a bod eich plentyn ond yn bwyta math penodol.
Mae coginio gyda'ch plentyn yn rhoi cyfle iddyn nhw weld cynhwysion y bwyd. Ewch â nhw gyda chi i siopa a gadewch iddyn nhw baratoi bwyd gyda chi.
Mae llawer o blant yn ddysgwyr gweledol, rhowch gynnig ar brydau thema gan ddefnyddio’r rhaglen ‘My World Kitchen' ar CBeebies i gael syniadau.
Defnyddiwch blatiau bach yn hytrach na phlatiau mawr, bydd yn haws iddyn nhw ddygymod â’r rheini, a gall eich plentyn bob amser ofyn am fwy.
Ceisiwch beidio â sychu bwyd ar unwaith na gwneud ffws os yw'r plentyn yn gwneud llanast. Mae gweithgareddau synhwyraidd yn ffordd ystyrlon arall i blant ddysgu. Gan mai trwy gael profiadau ymarferol gyda deunyddiau y bydd plant yn dysgu, mae profiadau synhwyraidd yn hanfodol i’ch plentyn ac yn cefnogi eu datblygiad a'u hiechyd corfforol.
Cofiwch y 3 Rheol.Mae'n bwysig cynnig bwydydd y mae eich plentyn eisoes yn eu hoffi yn ogystal â bwydydd nad yw eich plentyn yn eu hoffi eto. Rheol fras i’w dilyn yw cynnig dim mwy na thri o fwydydd ar y tro. Cynhwyswch un neu ddau o fwydydd y mae eich plentyn eisoes yn eu hoffi ac un math o fwyd nad yw eich plentyn yn ei hoffi eto. Os na fydd eich plentyn yn fodlon cael y bwyd newydd ar ei blât/phlât, rhowch y bwyd newydd ar blât ar wahân ('plât dysgu') cyfagos i’w helpu i ddod i arfer â'r bwyd newydd.
Cyflwynwch fwydydd newydd mewn darnau bach ac mewn ffyrdd hwyliog neu gyfarwydd, bydd hyn yn gwneud eich plentyn yn fwy tebygol o’u bwyta.