Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor ar gyfer Plant sydd â Deiet Cyfyngedig

Mae pob plentyn yn mynd trwy gyfnodau o ddewis a dethol eu bwydydd yn fwy gofalus na’i gilydd. Mae'r rhan fwyaf o rieni'n profi amser prydau bwyd heriol.

Gall bwyta cyfyngedig (restricted eating) fod yn gyffredin ymysg plant sydd ag anawsterau synhwyraidd, plant sydd yn, neu wedi cael eu bwydo trwy diwb, neu blant sydd ag Anhwylder Cyfathrebu Cymdeithasol.

Mae'r llyfryn canlynol yn cynnwys cyngor a strategaethau defnyddiol ar sut y gallwch chi gefnogi eich plentyn i fwyta yn ystod prydau bwyd ac ar adegau eraill.

Cynnwys

  1. Sut i gael o gorau o brydau bwyd
    Awgrymiadau ar sut i wneud prydau bwyd yn brofiadau gwell i chi a'ch plentyn.
     
  2. Cyflwyno bwydydd newydd i'ch plentyn
    Awgrymiadau ar sut i gyflwyno bwydydd newydd i'ch plentyn yn raddol. Cyngor ar sut i adnabod pa fwydydd mae eich plentyn yn eu hoffi orau a sut allwch chi gyflwyno mwy o amrywiaeth i’w deiet trwy wneud newidiadau bychain.
     
  3. Pwysigrwydd eistedd yn dda
    Gwybodaeth am bwysigrwydd eistedd yn dda wrth fwyta.
    Awgrymiadau ar sut allwch chi gefnogi eich plentyn yn ystod prydau bwyd.
     
  4. Effaith ein synhwyrau ar sut rydyn ni'n bwyta
    10 Gwybodaeth am ein synhwyrau a’u heffaith ar sut mae plant yn bwyta.
    Cyngor ar weithgareddau a all gefnogi datblygiad sgiliau a sut i baratoi system synhwyraidd eich plentyn ar gyfer bwyta.
     
  5. Dysgu am fwyd trwy chwarae
    Syniadau ar gyfer gweithgareddau a all eich helpu i gyflwyno bwydydd newydd i'ch plentyn mewn ffordd hwyliog.
     
  6. Helpu plant i gael y maeth y mae arnyn nhw ei angen
    Awgrymiadau i'ch helpu i gynnwys yr holl faetholion angenrheidiol yn neiet eich plentyn.
     
  7. Ffactorau eraill i'w hystyried
    Gwybodaeth am y ffactorau eraill a allai effeithio ar iechyd neu arferion bwyta eich plentyn.
     
  8. Dolenni defnyddiol
    Dolenni i adnoddau lleol, llyfrau, gwefannau a rhaglenni teledu a all eich cefnogi chi a'ch plentyn.
Dilynwch ni: