Diolch am ymweld â gwefan y Gwasanaeth Rheoli Pwysau Oedolion. Rydym yma i'ch cefnogi gyda rheoli eich pwysau, ac yn gobeithio y bydd y cwestiynau cyffredin canlynol yn helpu gydag unrhyw ymholiadau a allai fod gennych.
Rydym yn gwerthfawrogi y gallech fod ar un o'n rhestrau aros ar hyn o bryd; byddwch yn sicr ein bod yn gwneud ein gorau i'ch cyrraedd cyn gynted â phosibl.
Cofiwch mai canllaw yw'r wybodaeth ar y wefan hon ac ni ddylai gymryd lle unrhyw gyngor y gallech fod wedi'i dderbyn gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol. Os oes gennych unrhyw bryderon am eich cyflwr, cysylltwch â'ch ymarferydd gofal iechyd neu'ch meddyg teulu. Mae cyngor ar ba wasanaeth iechyd i gysylltu ag ef ar gael ar wefan Dewis Doeth. Ar gyfer gofal brys mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser.