Rydym wrth ein bodd yn derbyn eich adborth, gellir gwneud hyn mewn sawl ffordd, er enghraifft, drwy ddefnyddio’r cardiau canmoliaeth ar y safle, gadael sylw yn llyfr sylwadau’r adran neu drwy gwblhau ein harolwg cleifion gan ddefnyddio’r cod QR isod:
Y Gwasanaeth Cymorth a Chyswllt Cleifion (PALS)
Y Gwasanaeth Cymorth a Chyswllt Cleifion (PALS) – Fel claf, perthynas neu ofalwr, weithiau bydd angen i chi droi at rywun am gymorth neu gyngor yn y fan a’r lle. Fel arfer, bydd hyn ar gael gan y meddygon, y bydwragedd a’r gweithwyr proffesiynol sy’n eich trin chi neu’n trin yr unigolyn rydych chi’n ei gynrychioli.
Weithiau fodd bynnag, mae’n bosib y bydd angen Tîm PALS arnoch chi i ddarparu cyngor a chymorth cyfrinachol a diduedd.
Sut ydw i’n gallu cysylltu â PALS?