Os oes gennych unrhyw bryderon am eich llygaid, dylech gysylltu â'ch optometrydd lleol yn hytrach na'ch meddyg teulu.
O dan y WGOS, mae archwiliadau ar gyfer problemau llygaid brys am ddim i gleifion a bydd eich optometrydd yn gallu rhoi cyngor i chi a ydych chi'n gymwys i gael hyn.
Fel rhan o archwiliad, bydd yr optometrydd yn archwilio'ch llygaid yn ofalus i weld a oes unrhyw beth o'i le. Bydd y profion a'r offer maen nhw'n eu defnyddio yn dibynnu ar yr hyn rydych chi'n ei ddweud wrthyn nhw a'r hyn maen nhw'n ei ganfod, ac efallai y byddan nhw'n cymryd mwy o amser na phrawf llygaid arferol.