Mae gan rai optometryddion sydd wedi'u lleoli mewn practisau cymunedol gymhwyster rhagnodi annibynnol ac maent yn gallu rhagnodi rhai meddyginiaethau y byddai angen ymweliad â meddyg teulu neu ymweliad â gwasanaeth damweiniau llygaid yr ysbyty i'w cael yn y gorffennol. Mae hyn yn golygu y gall mwy o gleifion dderbyn gofal am eu cyflyrau yn agosach at adref.