Yn ein cylchlythyr cyntaf i blant a rhieni lleol, roedden ni eisiau manteisio ar y cyfle hwn i rannu rhywfaint o newyddion cadarnhaol ynghylch dyfodol gwasanaethau iechyd a lles yng Nghwm Llynfi.
Efallai eich bod yn ymwybodol bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru i ystyried amrywiaeth o opsiynau sy'n edrych ar y ffordd orau y gallwn ddiwallu anghenion iechyd a lles hirdymor holl drigolion Cwm Llynfi.
Yn dilyn gwaith helaeth ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, ac wedi'i lywio gan adborth cymunedol o'n digwyddiadau cyhoeddus yn 2023, rydym yn gwybod eich bod am i ni ddarparu'r gwasanaethau canlynol yng Nghwm Llynfi yn y dyfodol:
Yn fyr, a thrwy gydweithio'n agos â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a phartneriaid eraill, ein nod yw darparu mwy o wasanaethau iechyd a lles plant a theuluoedd yng Nghwm Llynfi.
Darperir mwy o fanylion yn ein Cwestiynau Cyffredin diweddaraf (diweddarwyd Hydref 2025).
Y cwestiwn allweddol yr ydym yn ei ystyried nawr yw ble y gallwn ddarparu'r gwasanaethau hyn orau mewn ffordd sydd nid yn unig yn cynrychioli'r gwerth gorau am arian cyhoeddus, ond sy'n cynyddu nifer a mathau'r gwasanaethau y gallwn eu darparu i'r eithaf.
Mae'r posibiliadau sy'n cael eu hystyried yn cynnwys:
Ar hyn o bryd, rydym am bwysleisio nad oes unrhyw benderfyniad wedi'i wneud a'n bod yn disgwyl gallu penderfynu sut orau i fwrw ymlaen tua Pasg 2026.
Cyn y pwynt penderfynu hwnnw, rydym am ymgysylltu â chymaint o bobl â phosibl i drafod dyfodol iechyd a lles yng Nghwm Llynfi, gan gynnwys trafod yr opsiynau safle sydd ar gael i ni.
Os ydych chi'n rhan o unrhyw grwpiau lleol a hoffai gyfarfod â ni i drafod y diweddariadau hyn, ateb cwestiynau a chlywed barn eich grŵp lleol, cysylltwch â ni yn: CTM.HealthyFuturesMaesteg@wales.nhs.uk.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, neu geisiadau am ragor o wybodaeth cyn ein diweddariad nesaf, mae croeso i chi gysylltu drwy CTM.HealthyFuturesMaesteg@wales.nhs.uk.
Dyddiad y Briff Nesaf - Mawrth 2026