Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad ar y Cynnydd Tuag at Ganolfan Iechyd a Lles Maesteg - Awst 2025

Dyfodol Iach Maesteg

 

 Roeddem am roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar y cynnydd tuag at Ganolfan Iechyd a Lles Maesteg. 

Fel yr amlinellon ni ym mis Mai 2025, ar gyfer y prosiect hwn rydym yn anelu at sicrhau cyfanswm o ryw £30M, gan gynnwys £20-25M o Gronfa Gofal Integreiddio ac Ailgydbwyso (IRCF) Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, mae cost ailddatblygu Ysbyty Cymunedol Maesteg yn llawer mwy na'r cyfanswm hwn, sy'n golygu bod yn rhaid i ni ystyried opsiynau gwahanol, gan gynnwys datblygu cyfleuster pwrpasol ar safle posibl arall ger Heol Ewenni, Maesteg (mae ein Cwestiynau Cyffredin o fis Mai 2025 yn darparu mwy o wybodaeth am hyn ac maen nhw ynghlwm). 

Mae ein partneriaid yn y gadwyn gyflenwi (sefydliadau sy'n darparu arbenigedd a phrofiad i'n galluogi i gynllunio a chyflawni prosiectau cymhleth), gan gynnwys Kier Construction, wedi cwblhau astudiaeth ddichonoldeb o'r safle arall posibl, sydd wedi nodi ei bod yn werth cynnal astudiaeth fanylach, fel rhan o'r broses achos busnes ddwy flynedd safonol. 

Rydym nawr yn ceisio cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â'r broses achos busnes, a fydd yn ein galluogi i archwilio'r safle arall posibl yn fanwl, gan gynnwys datblygu cynllun a fydd wedi'i gostio'n llawn. Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi adborth / cymeradwyaeth i fwrw ymlaen ddiwedd mis Medi neu ddechrau mis Hydref 2025. 

Fel rhan o'r broses achos busnes ac er mwyn darparu cymhariaeth wirioneddol rhwng y safle presennol a'r safle arall posibl, byddwn hefyd yn sicrhau bod unrhyw gyfleoedd a nodwyd ar y safle arall posibl yn cael eu hadlewyrchu yn y costau ar gyfer ailddatblygu Ysbyty Cymunedol presennol Maesteg. Mae hyn yn dangos ein hymrwymiad i ddefnyddio'r holl gyfleoedd i ailddatblygu Ysbyty Cymunedol Maesteg. 

Fodd bynnag, ac fel y gwnaethom amlinellu yn gynharach eleni, os gall cyfleuster posibl ar safle newydd ym Maesteg ddarparu canolfan iechyd a lles pwrpasol a fydd yn gwasanaethu buddiannau'r gymuned am y degawdau i ddod o fewn y gyllideb darged, mae'n bwysig ein bod yn archwilio'r opsiwn amgen hwn yn fanwl. 

Ymgysylltu â'n Cymunedau

Ar hyn o bryd, rydym am bwysleisio nad oes unrhyw benderfyniad wedi'i wneud. Bydd yn cymryd tan chwarter cyntaf 2026 nes i ni gyrraedd cam lle mae dyluniad a chostau'r safle arall posibl yn galluogi cymhariaeth debyg â'r dyluniad a'r costau oedd wedi'u cwblhau ar gyfer Ysbyty Cymunedol Maesteg. 

Cyn y pwynt hwnnw, rydym am ymgysylltu â chymaint o bobl â phosibl i drafod dyfodol iechyd a lles yng Nghwm Llynfi, gan gynnwys trafod yr opsiynau safle sydd ar gael i ni, yn ogystal â dyfodol posibl y safle presennol pe bawn yn symud ymlaen gyda safle newydd. 

Fel rhan o'r gwaith ymgysylltu hanfodol hwn, hoffem gwrdd ag ystod eang o grwpiau, cymdeithasau a sefydliadau lleol sy'n cynrychioli cymunedau lleol dros y pump i chwe mis nesaf. Rydym yn gobeithio y byddwch chi'n gallu cymryd rhan yn y gwaith hwn a byddwn mewn cysylltiad i drefnu amser i gwrdd â chi yn y dyfodol agos. 

Rhagor o wybodaeth 

Os bydd gennych chi unrhyw ymholiadau, neu geisiadau am ragor o wybodaeth cyn ein diweddariad nesaf, mae croeso i chi gysylltu: 

  • Dale Stolzenberg, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Trawsnewid, Cynllunio Strategol a Gweithredol - Dale.Stolzenberg@wales.nhs.uk 
  • Natasha Weeks, Pennaeth Ymgysylltu ac Ymwneud - Natasha.weeks2@wales.nhs.uk 

 

Dyddiad briffio nesaf – Hydref / Tachwedd 2025 

 

Dilynwch ni: