Gan ddibynnu ar yr amgylchiadau, fel arfer meddyg teulu’r person ymadawedig fydd yn cwblhau'r Dystysgrif Feddygol o Achos y Farwolaeth pan fydd person yn marw gartref neu mewn cartref preswyl/gofal. Os ydych chi'n gwybod pwy yw meddyg teulu eich perthynas/ffrind, gallwch gysylltu â nhw i gael rhagor o wybodaeth.
Os bydd y farwolaeth yn sydyn, yn annisgwyl neu os dydy’r person ymadawedig ddim wedi cael ei weld yn ddiweddar gan ei feddyg teulu, efallai y bydd swyddfa'r crwner yn rhan o’r ymchwiliad. Efallai y bydd y meddyg teulu neu'r heddlu (os yw’n bresennol) yn gallu rhoi cyngor i chi ar hyn. Mae rhagor o wybodaeth am rôl y crwner yn y llyfryn hwn.
Fodd bynnag, os ydych chi’n teimlo bod angen unrhyw gymorth arnoch, cysylltwch â'r swyddogion profedigaeth.