Yn unol â gofynion newydd y llywodraeth, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn gweithio'n agos gyda'r Gwasanaeth Archwilwyr Meddygol.
Mae'r archwiliwr meddygol yn uwch feddyg nad yw'n ymwneud â gofal y claf, sy'n darparu archwiliad annibynnol ar bob marwolaeth. Mae'r gwasanaeth hwn yn caniatáu i achos y farwolaeth gael ei nodi'n fwy cywir, a bod amgylchiadau'r farwolaeth yn cael eu hasesu'n fwy gwrthrychol.
Mae gan yr archwiliwr meddygol dîm o swyddogion archwilio meddygol, a fydd yn cysylltu â chi yn y dyddiau ar ôl marwolaeth eich perthynas/ffrind. Mae hon yn weithdrefn safonol a does angen poeni amdano neu'n fod yn bryderus. Bydd y tîm yn trafod achos y farwolaeth gyda chi, ac yn gwrando ar eich barn am y gofal sy’n cael ei ddarparu. Gallan nhw ateb unrhyw gwestiynau sydd gyda chi am achos y farwolaeth ac amgylchiadau'r farwolaeth.